Newyddion S4C

Canfod teulu gwaed 'yn broses mor emosiynol’ medd dyn o Fethesda

11/11/2023
s4c

“Oedd o'r peth anoddaf dwi di neud erioed yn feddyliol ac yn emosiynol.” 

Dyma eiriau dyn o Wynedd sydd wedi gwneud cysylltiad gyda’i ddwy hanner chwaer wedi iddo gael ei fabwysiadu yn fabi. 

Yn 11 oed, fe wnaeth bywyd Guto Williams o Fethesda newid am byth, pan gafodd wybod nad ei rieni oedd ei fam a’i dad biolegol. 

“Mae o newid bywyd chdi gyd, ti di cael dy fagu yn meddwl mai nhw ydi mam a dad chdi, ac mae o yn rwbath mawr i i gymryd mewn ond nath o ddim newid teimladau fi at mam a dad fi, nhw nath fagu fi.”

Fe wnaeth mam biolegol Mr Williams gadw ei beichiogrwydd yn gyfrinach, a pan wnaeth Mr Williams drio gwneud cyswllt gyda hi 17 mlynedd yn ôl fe wrthododd. 

“Pan nes i droi yn 30 oed nes i neud y penderfyniad i ffeindio mam gwaed fi, a nes i gysylltu gyda hi ond doedd hi ddim isio cyfarfod a chysylltu yn bellach.

“Ond roedd hi'n fodlon deutha fi bod gennai dwy hanner chwaer. Ers y foment yna dio heb adael fy mhen rili.”

Image
newyddion
Guto Williams gyda'i wraig a'r plant

'Rejection' 

Fe wnaeth cael ei wrthod gan ei fam am yr ail waith adael craith ar Mr Williams, meddai, ond doedd ddim wedi gallu anghofio am ei chwiorydd. 

Gyda help rhaglen Gwesty Aduniad, mae Mr Williams wedi gwneud cysylltiad gyda’i ddwy hanner chwaer, profiad oedd yn ei ofni ar y cychwyn. 

“Oedd o yn arbennig bod yn rhan o’r rhaglen a oedd y tîm yn gymaint o gymorth, dwi mor ddiolchgar am yr holl help.

“O’n i heb fod yn llwyddiannus yn y gorffennol o ran cael yr outcome o’n i isio ac o’n i wedi neud fy hun yn barod i gael outcome negatif arall, so o’n i mewn sioc pan oedda nhw isio cysylltiad efo fi. 

“Mae lot yn dweud bo fi wedi bod yn ddewr ar ôl cael rejection dwywaith mewn ffordd, achos ges i rejection pan ges i fy ngeni ac wedyn y rejection pan o’n i yn 30 a oedd hi misio ddim i neud efo fi - oedd o yn brave move ac o’n i yn poeni bod fi am gael y rejection am y trydydd gwaith.”

Er nad yw Mr Williams mewn cysylltiad gyda’i fam mae’n hynod o falch ei fod wedi creu perthynas gyda’i ddwy hanner chwaer.

“Dwi wrth fy modd efo’r cysylltiad, mae o dal yn surreal ond bydda ni’n cyfarfod eto efo teulu ehangach nhw - mae o yn grêt a dwi yn edrych ymlaen.”

Image
newyddion
Guto Willams yn cael gwybod bod ei ddwy chwaer eisiau cyslltiad ag ef

Dywedodd bod y broses wedi bod yn anodd ac yn emosiynol a bod Gwesty Aduniad wedi gwneud y broses yn haws iddo. 

“Dydi o ddim yn hawdd, oedd gennai ddim clem am y rheolau a’r broses nes i fi drio dod o hyd i mam am y tro gyntaf - nes i allu cysylltu drwy weithiwr cymdeithasol a doedd geno hi byth hawl i gysylltu efo fi.”

'Pobl arbennig'

Mae Mr Williams hefyd eisiau codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd pobl sydd yn mabwysiadu a rhieni maeth.

“Nath mam a dad fi rhoi ail gyfle mewn bywyd i fi. Dwi isio diolch i’r miliynau o bobl eraill sydd fel mam a dad fi ac wedi mabwysiadu. 

“Maen nhw yn bobl arbennig iawn ac mae’n cymryd person hyd yn oed mwy arbennig i gefnogi chdi pam tin chwilio am mam biolegol chdi fel nath mam fi.” 

Bydd Gwesty Aduniad ar S4C am 21.00 ar 14 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.