Y Gweilch yn arwyddo tri chwaraewr fel rhan o bartneriaeth 'arloesol' gyda chlwb o Dde Affrica
Mae rhanbarth rygbi Y Gweilch wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda chlwb rygbi Toyota Cheetahs o De Affrica er mwyn datblygu chwaraewyr.
Fel rhan o’r trefniant, fe fydd tri o chwaraewyr o'r Cheetahs yn ymuno â’r Gweilch ar fenthyg ar unwaith; yr asgellwr Daniel Kasende, y bachwr Marnus van der Merwe, a’r mewnwr Rewan Kruger. Mae'r olaf wedi cynrychioli tîm Dan 20 De Affrica.
Fe fydd y bartneriaeth yn rhoi cyfle i rai o chwaraewyr y Gweilch i chwarae dros y Cheetahs yn ogystal.
Yn ôl adroddiadau, daw’r bartneriaeth wedi i’r cwmni sydd yn berchenogion ar y Gweilch, Y-11 Sports and Media, fuddsoddi yn y Cheetahs, sydd wedi eu lleoli yn ninas Bloemfontein.
Roedd y Cheetahs yn cystadlu yn erbyn rhanbarthau Cymru yn y PRO14 rhwng 2017 a 2020, ond fe gafodd y clwb eu disodli yn y gynghrair gan dimoedd eraill o De Affrica yn ddiweddarach. Bellach maen nhw’n cystadlu yn y Currie Cup, yn Ne Affrica, ac yng Nghwpan Her Ewrop.
Mi fydd y bartneriaeth yn gyfle i ‘atgyfnerthu’r garfan’ yn ôl y Gweilch, mewn tymor ble mae pob rhanbarth rygbi yng Nghymru wedi derbyn toriad o £2 filiwn i’w cyllidebau.
'Arloesol'
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Gweilch, Dan Griffiths: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein partneriaeth gyda Cheetahs Rugby.
"Bydd y bartneriaeth yn creu cyfleoedd i atgyfnerthu ein carfan ar adegau tyngedfennol o’r tymor, gwella ein gallu i reoli anafiadau a llwyth gwaith chwaraewyr wrth gyfrannu at ein perfformiadau ar y cae.
“Rydym hefyd yn gyffrous i weithio gyda'r Cheetahs er mwyn cynnig rygbi a phrofiadau bywyd ar gyfer ein chwaraewyr dawnus sy'n datblygu. Mewn cyfnod heriol mae’n rhaid i ni fod yn arloesol yn ein hagwedd ac mae ein perthynas â’r Cheetahs yn un o’r ffyrdd yr ydym yn gyrru’r uchelgais hwnnw.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cheetahs, Ross van Reenen: “Mae’r bartneriaeth datblygu chwaraewyr newydd rhyngom ni a’r Gweilch yn gyfle cyffrous newydd nid yn unig i’r ddau dîm, ond i’r gamp yn ei chyfanrwydd ac rydym yn gyffrous i fod ar flaen y gad.
“Mae’r bartneriaeth yn rhoi llwyfan ar gyfer rhannu sgiliau a dysgu ar draws diwylliannau ac arddulliau i helpu i adeiladu datblygiad y ddau dîm.”
Daw'r cyhoeddiad wedi i'r Gweilch chwarae eu gêm ddiwethaf, yn erbyn Sharks, yn y Twickenham Stoop, sef y gêm gyntaf yn hanes y rhanbarth i gael ei chwarae yn Llundain.
Llun: Asiantaeth Huw Evans