Newyddion S4C

‘Cwestiynau difrifol’ am daliad £325,000 i gyn-gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru

09/11/2023
David Anderson

Mae yna “gwestiynau difrifol” i’w gofyn am daliad setliad £325,000 i gyn-gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Roedd y taliad i David Anderson, gan gynnwys £50,000 fel "iawndal am frifo ei deimladau", yn dilyn anghydfod rhyngddo ac Amgueddfa Cymru.

Fis diwethaf dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, fod ganddo "bryder sylweddol" dros "ddull yr amgueddfa o wneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod hwn".

Bellach, mae un o bwyllgorau'r Senedd wedi dweud bod y mater yn “codi cwestiynau difrifol” am ddull Llywodraeth Cymru o lywodraethu cyrff hyd braich.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, Mark Isherwood AS, ei fod yr un mor bryderus â’r Archwilydd Cyffredinol.

“Ein prif bryder, fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, yw cost hyn oll i’r pwrs cyhoeddus,” meddai.

“Mae cyfanswm cost y setliad dal yn aneglur, ond mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn awgrymu ei fod dros £750,000, ar ôl talu costau cyfreithiol a chostau ymgynghori, gyda £325,698 o hwn wedi’i ddyfarnu i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar ei ymadawiad. 

“Mae’n bryder nad oedd yr anghydfod wedi ei ddatrys ynghynt a’i fod wedi achosi costau syfrdanol, y gellid bod wedi osgoi rhai ohonynt.”

‘Cyfrifol'

Wrth ymateb i'r pwyllgor, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "ymwybodol o adroddiad Archwilio Cymru a materion llywodraethu diweddar Amgueddfa Cymru". 

“Byddwn yn ystyried casgliadau’r adroddiad yn ofalus cyn ymateb," meddai.

Wrth ymateb dywedodd Amgueddfa Cymru eu bod nhw’n “parchu” barn Archwilydd Cymru.

“Fodd bynnag, rydym yn siomedig nad oedd rhywfaint o’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Amgueddfa Cymru wedi’i adlewyrchu yn yr adroddiad,” medden nhw.

“O ganlyniad, nid ydym yn teimlo ei fod yn gynrychiolaeth deg o’r digwyddiadau nac yn rhoi ystyriaeth lawn i’r amgylchiadau cymhleth y bu’n rhaid i Amgueddfa Cymru eu datrys.”

Dywedodd yr amgueddfa fod y setliad ariannol wedi caniatáu iddyn nhw “osgoi proses gyfreithiol hir” a chostau hynny.

“O ystyried yr holl ffactorau hyn, barnwyd mai'r trefniadau setlo oedd y defnydd mwyaf cyfrifol o arian o dan amgylchiadau anodd,” medden nhw.

Ychwanegodd Amgueddfa Cymru eu bod nhw’n gobeithio symud ymlaen dan arweiniad Cadeirydd a Phrif Weithredwr Newydd.

‘Prif sefydliadau’

Ychwanegodd Mark Isherwood AS  eu bod nhw “wedi codi pryderon yn y gorffennol am reolaeth Llywodraeth Cymru ar ei chyrff hyd braich”.

“Rydym am wybod sut y caniatawyd i hyn ddigwydd o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru, a beth fydd yn digwydd nawr er mwyn osgoi i hyn ddigwydd eto gyda’r holl gyrff y mae ganddi gyfrifoldeb amdanynt,” meddai.

“Cawsom ein hysbysu gyntaf am bryderon ynghylch y trefniadau llywodraethu yn yr Amgueddfa ym mis Ionawr 2022. Tra parhaodd yr anghydfod hwn, mae’n rhaid bod y staff wedi teimlo effaith hyn a’i fod wedi amharu ar gynnydd y sefydliad a’i ddull o ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd.

“Amgueddfa Cymru yw un o brif sefydliadau Cymru, wrth wraidd treftadaeth a diwylliant ein gwlad. 

“Yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, rydym am wybod sut mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r Llywydd presennol yn bwriadu sicrhau sefydlogrwydd yn y sefydliad hynod werthfawr hwn, ac adfer ei enw da.”

Ddydd Iau, 16 Tachwedd, bydd Cadeirydd a Phrif Weithredwr presennol Amgueddfa Cymru, Kate Eden a Jane Richardson, yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.