Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

11/06/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar y prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore dydd Gwener, 11 Mehefin.

Pencampwriaeth Euro 2020 yn dechrau - Newyddion S4C

Bydd pencampwriaeth Euro 2020 yn dechrau ddydd Gwener wrth i’r Eidal herio Twrci yn Stadiwm Olimpico yn Rhufain. Mae’r bencampwriaeth yn digwydd flwyddyn yn ddiweddarach na'r disgwyl, wedi iddi gael ei gohirio'r llynedd oherwydd y pandemig coronafeirws. Cymru sy’n chwarae ail gêm y gystadleuaeth, gan wynebu’r Swistir yn Baku ddydd Sadwrn.

Sylwadau Matt Hancock am system frechu Cymru yn 'ffeithiol anghywir' - Wales Online

Mae Mark Drakeford wedi dweud fod sylwadau diweddar Gweinidog Iechyd San Steffan am raglen frechu Cymru yn "ffeithiol anghywir". Yn gynharach yr wythnos hon, roedd Matt Hancock wedi dweud wrth bwyllgor dethol o ASau fod Cymru wedi llwyddo i frechu cymaint o bobl am ei bod yn gallu dibynnu ar gyflenwad wrth gefn o Loegr, a bod "yr Undeb yn achub bywydau".

Beirniadu Parc Eryri am beidio gwweithredu ar enw Saesneg yr Awdurdod 

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn “cicio’r can i lawr y ffordd” yn lle dod i benderfyniad ar gael gwared ar enw Saesneg y Parc, yn ôl Cynghorydd o Wynedd. Mae’r Cynghorydd John Pughe Roberts, sy’n aelod o’r Awdurdod, wedi lansio deiseb sy’n galw ar newid yr enw Saesneg i Eryri National Park. Ar hyn o bryd mae’r parc yn cael ei adnabod fel Snowdonia National Park, a Pharc Cenedlaethol Eryri yn y Gymraeg.

Prydain i roi 100m brechlyn Covid-19 i wledydd eraill - Sky News

Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud y bydd y Deyrnas Unedig yn rhoi 100 miliwn o frechlynnau Covid-19 sydd wrth gefn i wledydd eraill o fewn y flwyddyn nesaf. Daw hyn wrth i Mr Johnson groesawu rhai o arweinwyr y byd i Gernyw ar gyfer Uwchgynhadledd y G7.

Joe Biden yn 'chwa o awyr iach' medd Boris Johnson - The Washington Post

Mae Boris Johnson wedi disgrifio Joe Biden, Arlywydd yr UDA, fel "chwa o awyr iach" yn ystod cyfarfod cyntaf y ddau arweinydd. Fe ddaeth y cyfarfod hwnnw yng Nghernyw ar drothwy cynhadledd y G7, sydd yn cael ei chynnal rhwng dydd Gwener a dydd Sul.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.