Newyddion S4C

Pencampwriaeth Euro 2020 yn dechrau

Newyddion S4C 11/06/2021

Pencampwriaeth Euro 2020 yn dechrau

Bydd pencampwriaeth Euro 2020 yn dechrau ddydd Gwener wrth i’r Eidal herio Twrci yn Stadiwm Olimpico yn Rhufain.

Mae’r bencampwriaeth yn digwydd flwyddyn yn ddiweddarach na'r disgwyl, wedi iddi gael ei gohirio'r llynedd oherwydd y pandemig coronafeirws.

Cymru sy’n chwarae ail gêm y gystadleuaeth, gan wynebu’r Swistir yn Baku ddydd Sadwrn.

Gobaith Cymru fydd ail-greu llwyddiant ysgubol 2016, pan y gwnaeth Gareth Bale a’i gyd-chwaraewyr gyrraedd y rownd gynderfynol yn erbyn Portiwgal.

Ond yn wahanol i 2016, ni fydd carfan Rob Page yn gallu dibynnu ar gefnogaeth y Wal Goch, wrth i gyfyngiadau Covid-19 atal y rhan fwyaf o gefnogwyr rhag teithio i Baku.

Serch hynny, bu rhaglen Newyddion S4C yn siarad gyda rhai cefnogwyr sydd wedi teithio i Azerbaijan yn erbyn cyngor Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Image
HuwEvans
Dau o chwaraewyr pêl-droed gorau'r byd yn rhannu'r un cae yn ystod gêm gynderfynol Euro 2016 rhwng Cymru a Phortiwgal. [Llun: Huw Evans]

Mae’r bencampwriaeth yn digwydd dros gyfnod o fis, gyda’r gêm derfynol yn Llundain ar ddydd Sul, 11 Gorffennaf.

Bydd 11 stadiwm ledled Ewrop yn croesawu’r timau, gyda Budapest, Baku, St Petersburg a Seville ymhlith y pair.

Pwy sydd yn bob grŵp?

Grŵp A: Twrci, Yr Eidal, Cymru, Y Swistir

Grŵp B: Denmarc, Y Ffindir, Gwlad Belg, Rwsia

Grŵp C: Yr Iseldiroedd, Wcráin, Awstria, Georgia, Gogledd Macedonia

Grŵp D: Lloegr, Croatia, Y Weriniaeth Tsiec, Yr Alban

Grŵp E: Sbaen, Sweden, Gwlad Pwyl, Slofacia

Grŵp F: Yr Almaen, Ffrainc, Portiwgal, Hwngari

Pryd mae Cymru’n chwarae?

Cymru v Y Swistir, Dydd Sadwrn 12 Mehefin, Baku

Twrci v Cymru, Dydd Mercher 16 Mehefin, Baku

Yr Eidal v Cymru, Dydd Sul 20 Mehefin, Rhufain

Image
HuwEvans
Mae Wembley wedi addo caniatáu i’r stadiwm fod 25% llawn ar gyfer y gemau sy’n cael eu cynnal yno. [Llun: Huw Evans]

Os bydd Cymru yn ennill eu grŵp, nhw fyddai’n wynebu'r rhai sy’n ail o Grŵp C yn Llundain ddydd Sadwrn, 26 Mehefin.

Os yn ail, nhw fydd yn wynebu eu cydatebwyr o Grŵp B yn Amsterdam ar yr un dydd.

Mae’r rowndiau cynderfynol a’r gêm derfynol i gyd yn cael eu cynnal yn Stadiwm Wembley, Llundain.

Prif lun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.