Newyddion S4C

Sylwadau Matt Hancock am system frechu Cymru yn 'ffeithiol anghywir'

Wales Online 11/06/2021
ITV Cymru

Mae Mark Drakeford wedi dweud fod sylwadau diweddar Gweinidog Iechyd San Steffan am raglen frechu Cymru yn "ffeithiol anghywir".

Yn gynharach yr wythnos hon, roedd Matt Hancock wedi dweud wrth bwyllgor dethol o ASau fod Cymru wedi llwyddo i frechu cymaint o bobl am ei bod yn gallu dibynnu ar gyflenwad wrth gefn o Loegr, a bod "yr Undeb yn achub bywydau".

Ond wrth siarad yng Nghaerdydd nos Iau, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford fod sylwadau Mr Hancock yn "ffeithiol anghywir".

Yn y cyfamser, mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sydd yn dweud bod angen "cynllun clir" ar gyfer heriau'r dyfodol yn dilyn twf sydyn y rhaglen frechu yng Nghymru. 

Mae Archwilio Cymru yn gorff annibynnol sydd yn archwilio cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae "cynnydd sylweddol" cynllun brechu Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymhelliant cryf i yrru'r rhaglen yn ei blaen, a hynny drwy gynllun cyflym fyddai'n cyfateb i'r wybodaeth am y feirws a'r brechlynnau wrth iddyn nhw ddatblygu. 

Dywedodd Adrian Crompton, sydd yn Archwilydd Cyffredinol i Archwilio Cymru: "Mae Cymru wedi gwneud camau breision gyda'i rhaglen frech yn erbyn Covid-19. 

"Mae cerrig milltir allweddol ar gyfer grwpiau blaenoriaeth wedi'u cyrraedd, a'r rhaglen yn mynd rhagddi'n dda, gyda chyfran sylweddol o boblogaeth Cymru bellach wedi'u brechu.

"Er hynny, mae'r gwaith ymhell o fod ar ben. Mae angen cynllun tymor hwy sy'n symud y tu hwnt i'r cerrig milltir bresennol ac yn ystyried materion o bwys fel gwytnwch y gweithlu brechu, gwybodaeth sy'n datblygu am ddiogelwch brechlynnau, yr angen am ddosau atgyfnerthu, a chynnal cyfraddau derbyn da - yn enwedig yn y grwpiau hynny lle gwelwyd rhywfaint o betruster o ran derbyn brechlyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.