Newyddion S4C

Beirniadu Parc Eryri am beidio gweithredu ar enw Saesneg yr Awdurdod

NS4C

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn “cicio’r can i lawr y ffordd” yn lle dod i benderfyniad ar gael gwared ar enw Saesneg y Parc, yn ôl Cynghorydd o Wynedd.

Mae’r Cynghorydd John Pughe Roberts, sy’n aelod o’r Awdurdod, wedi lansio deiseb sy’n galw ar newid yr enw Saesneg i Eryri National Park.

Ar hyn o bryd mae’r parc yn cael ei adnabod fel Snowdonia National Park, a Pharc Cenedlaethol Eryri yn y Gymraeg.

Cafodd is-bwyllgor ei sefydlu gan yr Awdurdod yn gynharach ym mis Mai i drafod y newid.

Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri "na fydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei chyflawni nes fydd prysurdeb y tymor wedi distewi". 

Yn ei ddeiseb, mae Mr Roberts hefyd yn galw ar yr Awdurdod i ddefnyddio’r enw Cymraeg, Yr Wyddfa, yn unig.

Mae 5,000 o bobl wedi arwyddo’r ddeiseb hyd yma.

Yn ôl Mr Roberts, sy’n cynrychioli ward Corris a Mawddwy, mae angen i’r Awdurdod “barchu galwadau'r rhai sydd wedi arwyddo’r ddeiseb”.

· Galw i ddefnyddio enw uniaith Gymraeg ar yr Wyddfa 

· Sefydlu is-bwyllgor i ystyried defnyddio enw uniaith Gymraeg ar Yr Wyddfa 

Daw ei sylwadau wedi cyfarfod diweddaraf yr Awdurdod ar 9 Mehefin, gyda’r Cynghorydd yn dweud nad oedd y mater wedi ei drafod bryd hynny oherwydd “cyfyngiadau amser”.

Cafodd y cynnig ei roi i un ochr am y tro mewn cyfarfod ar 28 Ebrill, gyda’r Awdurdod yn nodi fod y mater yn nwylo’r pwyllgorau.

Yn ystod y cyfarfod hwnnw, fe ddywedodd y Cynghorydd fod hi’n bryd i’r Awdurdod arwain ar y mater, yn hytrach na throsglwyddo’r mater o un pwyllgor i’r llall.

‘Diffyg ymroddiad’

Dros fis yn ddiweddarach, ac mae’n dweud fod y diffyg trafod hyd yma yn “siomedig”.

“Mae hyn yn dangos diffyg ymroddiad yn fy marn i,” meddai.

“Maen nhw’n cicio’r can i lawr y ffordd lle bo nhw’n goro ‘neud penderfyniad.

“Da ni [yr Awdurdod] ddim isho i bobl newid enwau Cymraeg i Saesneg, felly mae'n rhaid i ni arwain y ffordd”.

Mae’r Parc Cenedlaethol wedi sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen Enwau Lleoedd Cymraeg, sy’n cynnwys tri aelod o’r Awdurdod.

Nodwyd hefyd fod Grŵp Craffu wedi derbyn y dasg o symud y mater yn ei flaen mewn partneriaeth gyda Chomisiynydd y Gymraeg, gan adrodd yn ôl i’r Awdurdod.

Ond mae Mr Roberts yn honni mai nid mater i’r Grŵp Tasg yw ystyried newid enw’r Awdurdod, gan fod hynny’n wahanol i newid enw ar leoliad.

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mi fydd grŵp tasg a gorffen yn mynd ati i ddatblygu fframwaith polisi i alluogi APCE i amddiffyn a safoni'r defnydd o enwau lleoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri gan yr Awdurdod.

"Mi fyddant hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith gwahanol gynulleidfaoedd gan gynnwys cynulleidfaoedd uniaith, amlieithog, aml-ethnig a rhyngwladol o bwysigrwydd enwau lleoedd yn Eryri; ac fel ffynhonnell sy'n cryfhau cysylltiadau ag amgylchedd, hanes a threftadaeth yr ardal.

"Mi fydd cyfarfod cychwynol cyn gwyliau’r hâf, ond ni fydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei chyflawni nes fydd prysurdeb y tymor wedi distewi".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.