Newyddion S4C

Galw i ddefnyddio enw uniaith Gymraeg ar yr Wyddfa

28/04/2021
NS4C

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn trafod cynnig ddydd Mercher i ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig ar yr Wyddfa, gan waredu’r enw Saesneg, Snowdon, yn gyfan gwbl.

Daw’r cynnig gan y Cynghorydd John Phughe Roberts, sydd yn aelod o Awdurdod y Parc.

Mae Mr Roberts hefyd yn galw ar yr awdurdod i ddefnyddio enw Cymraeg y Parc, sef Parc Cenedlaethol Eryri yn unig, yn hytrach na Snowdonia National Park.

Mae’r cynnig yn nodi: “Bod yr Awdurdod o hyn ymlaen ddim ond yn defnyddio enw Cymraeg yr awdurdod a bod hynny yn berthnasol mewn unrhyw iaith sef ‘Parc Cenedlaethol Eryri’ a byth yn defnyddio ‘Snowdonia National Park’ eto.

“Yn yr un modd mewn perthynas â’r Wyddfa – h.y. byth yn ei galw’n ‘Snowdon’ eto.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.