Newyddion S4C

Sefydlu is-bwyllgor i ystyried defnyddio enw uniaith Gymraeg ar Yr Wyddfa

28/04/2021
Yr Wyddfa

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cadarnhau fod "grŵp tasg" wedi'i sefydlu i drafod a ddylai defnyddio'r enw Cymraeg yn unig ar Yr Wyddfa.

Cafodd y cynnig ei wneud gan y Cynghorydd John Pughe Roberts, sydd yn aelod o Awdurdod y Parc. 

Dywed y Parc fod Aelodau'r Awdurdod wedi penderfynu "nad oedd angen ystyried y cynnig" yn y cyfarfod ddydd Mercher a bod y mater yn nwylo'r grŵp tasg am y tro.

Fe fydd eu hargymhellion yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod maes o law. 

Roedd Mr Roberts wedi cynnig fod yr Awdurdod yn peidio defnyddio'r enw Saesneg, Snowdon, yn gyfan gwbl a bod yr awdurdod hefyd yn defnyddio enw Cymraeg y Parc, sef Parc Cenedlaethol Eryri yn unig, yn hytrach na Snowdonia National Park. 

Dywedodd Wyn Ellis Jones, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Penderfynodd Aelodau’r Awdurdod nad oedd angen ystyried y mosiwn heddiw gan fod Grŵp Tasg a Gorffen wedi cael ei apwyntio’n barod. Mae hyn yn dilyn ystyriaeth flaenorol gan Aelodau mewn Grŵp Gweithio oedd yn argymell sefydlu a mabwysiadu canllawiau ar ddefnydd enwau lleoedd gan APCE.

"Mi fydd aelodau yn ystyried y materion hyn unwaith fydd y grŵp yn cyflwyno eu hargymhellion. Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo enwau lleoedd brodorol ar gyfer defnydd dyddiol ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.