Newyddion S4C

Joe Biden yn 'chwa o awyr iach' medd Boris Johnson

The Washington Post 11/06/2021
Biden: Llun Gage Skidmore

Mae Boris Johnson wedi disgrifio Joe Biden, Arlywydd yr UDA, fel "chwa o awyr iach" yn ystod cyfarfod cyntaf y ddau arweinydd.

Fe ddaeth y cyfarfod hwnnw yng Nghernyw ar drothwy cynhadledd y G7, sydd yn cael ei chynnal rhwng dydd Gwener a dydd Sul.

Ni chafwyd cynhadledd ar y cyd i'r wasg rhwng y ddau arweinydd fel sydd yn arferol. 

Mae effaith Brexit ar ddyfodol heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn destun pryder i Mr Biden ac yn bwnc gafodd ei drafod yn ystod y cyfarfod cyntaf yma rhwng y ddau arweinydd medd y Washington Post.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Llun: Gage Skidmore

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.