Prydain i roi 100m brechlyn Covid-19 i wledydd eraill

Brechlyn Rhydychen/AstraZeneca. Llun: Prifysgol Rhydychen, John Cairns.
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud y bydd y Deyrnas Unedig yn rhoi 100 miliwn o frechlynnau Covid-19 sydd wrth gefn i wledydd eraill o fewn y flwyddyn nesaf.
Daw hyn wrth i Mr Johnson groesawu rhai o arweinwyr y byd i Gernyw ar gyfer Uwchgynhadledd y G7.
Yn ôl Sky News, fe fydd yr arweinwyr yn gobeithio cyhoeddi eu hymroddiad i ddarparu o leiaf biliwn o frechlyn coronafeirws i weddill y byd, gydag Arlywydd yr UDA, Joe Biden, yn addo rhoi 500 miliwn o ddosau i wledydd tlotaf y byd.