Cyhuddo bachgen 14 oed o lofruddio bachgen 15 oed yn Leeds
09/11/2023
Mae bachgen 14 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio bachgen 15 oed yn Leeds.
Bu farw Alfie Lewis ar ôl iddo gael ei drywanu yn ardal Horsforth, Leeds ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Sir Gorllewin Efrog fore Iau bod bachgen 14 oed wedi’i gyhuddo o lofurddiaeth.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant.
Cafodd swyddogion eu galw i’r lleoliad ger Ysgol Hosforth, Leeds wedi'r ymosodiad toc cyn 15:00 ddydd Mawrth.
Bydd y bachgen 14 oed yn ymddangos yn Llys Ynadon Leeds yn ddiweddarach dydd Iau.
Nid oes modd ei enwi o achos ei oedran.