Newyddion S4C

Senedd Cymru yn pleidleisio o blaid cadoediad yn Gaza

08/11/2023
Rhun ap Iorwerth

Mae Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid cadoediad yn Gaza.

Fe wnaeth cynnig Plaid Cymru basio o 24 pleidlais i 19, gyda 13 yn ymwrthod.

Roedd y cynnig yn galw ar “y gymuned ryngwladol i uno i geisio sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol i ben a chaniatáu i sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen”.

Roedd hefyd yn "annog y Senedd i gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn mynd ar drywydd heddwch parhaol yn y rhanbarth".

Roedd y ddadl wedi amlygu gwahaniaeth barn yn y Blaid Lafur gydag aelodau o'r blaid honno yn cefnogi'r cynnig a hefyd gwelliant yn ei erbyn a oedd yn galw am "atal gwrthdaro" dros dro yn lle.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, a'i eilio gan yr aelodau o'r Blaid Lafur Carolyn Thomas a John Griffiths. Roedd Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi eilio.

Roedd Darren Millar o'r Blaid Geidwadol wedi cyflwyno gwelliant yn galw am "atal gwrthdaro er mwyn caniatáu sefydlu coridorau dyngarol". Cafodd y gwelliant ei eilio gan Alun Davies a Hefin David o'r Blaid Lafur.

Fe wnaeth 11 o aelodau y Blaid Lafur bleidleisio o blaid y cynnig, sef Buffy Williams, Carolyn Thomas, Huw Irranca Davies, Jack Sargeant, Jayne Bryant, Jenny Rathbone, John Griffiths, Joyce Watson, Mike Hedges, Rhiannon Passmore, a Sarah Murphy.

Pleidleisiodd Alun Davies, Ken Skates, Hefin David a Vikki Howells yn erbyn.

Fe wnaeth aelodau Plaid Cymru bleidleisio o blaid, a'r Ceidwadwyr yn erbyn.

Fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth Cymru, pob un o'r Blaid Lafur, atal eu pleidlais.

'Torcalonnus'

Wrth siarad ar ôl y ddadl, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS ei fod yn "falch bod ein Senedd heno, sy’n cynrychioli pobl ein cenedl, wedi cymryd safiad dros ddynoliaeth".

“Rwy’n rhoi fy niolch o galon i bawb o bob rhan o’r pleidiau gwleidyddol, gan gynnwys aelodau Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, a gefnogodd y cynnig heddiw," meddai.

“Tra bydd rhai yn amau cryfder galwad senedd unigol am gadoediad, gall Cymru, yn yr awr hon o arswyd dywyll hon, fod yn genedl fach yn gwneud datganiad mawr dros heddwch."

Dywedodd Darran Millar o'r Blaid Geidwadol ei bod yn "bwysig bod y Senedd yn anfon neges glir i bobol Israel a Phalestina ein bod ni eisiau gweld setliad heddwch hir a pharhaol er lles pobol Israel a Phalestina".

“Mae’r ymosodiadau terfysgol a’r herwgipio gan Hamas a’r delweddau o ddinistr rydyn ni’n eu gweld nawr o Gaza wedi bod yn dorcalonnus," meddai.

“Rhaid i ni i gyd wneud ymdrech arbennig i geisio sicrhau diweddglo brys i’r gwrthdaro.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.