Newyddion S4C

Araith y Brenin: Cyfraith a threfn wrth galon 'gweledigaeth' Rishi Sunak

08/11/2023

Araith y Brenin: Cyfraith a threfn wrth galon 'gweledigaeth' Rishi Sunak

Ymwelwyr, nid troseddwyr sy'n dod yma i Neuadd Sirol Trefynwy erbyn hyn.

Fe gaeodd y llys hwn dros 20 mlynedd yn ôl ond mewn llysoedd eraill ar draws Cymru a Lloegr mae 'na newidiadau ar droed.

Roedd cyfraith a threfn yn ganolog i'r araith hon.

Dywedodd Cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Gareth Pritchard: "Mi fyddan nhw'n cryfhau'r System Gyfiawnder Troseddol ond mae'n rhaid cael yr adnoddau a'r strwythur tu ôl i hynna. Dw i'n meddwl bod o'n bwysig i gryfhau o ochr y dioddefwyr bo' nhw'n gweld bod y system yn gweithio iddyn nhw ond bod 'na hefyd gefnogaeth iddyn nhw drwy'r System Gyfiawnder Troseddol."

Bydd y Mesur Dedfrydu'n golygu carchar am oes i droseddwyr yn yr achosion mwyaf difrifol ac ni fydd treiswyr a phobl sy'n gyfrifol am droseddau rhyw difrifol chwaith yn cael eu rhyddhau'n gynnar.

Bydd gan yr heddlu hawl i archwilio adeiladau heb warant i gael nwyddau sydd wedi eu dwyn os oes ganddyn nhw brawf rhesymol eu bod nhw yno.

Mi fydd gan farnwyr ragor o bwerau i sicrhau bod troseddwyr yn ymddangos yn y doc i gael eu dedfrydu ac fe fydd hi'n bosib i swyddogion ddefnyddio grym rhesymol i sicrhau bod hynny'n digwydd.

I'r troseddwyr sydd yn gwrthod maen nhw'n wynebu dwy flynedd yn ychwanegol dan glo.

Fe gynyddodd y galwadau am y newid hwn ar ôl i Lucy Letby wrthod dod o'i chell ym mis Awst. Roedd hi'n euog o lofruddio saith o fabanod mewn ysbyty yng Nghaer.

Mae clywed y barnwr a'i resymau am y ddedfryd a datganiad y dioddefwr yn arbennig yn rhan allweddol o'r gosb a hefyd o'r wers mae'r diffynnydd i fod i'w ddysgu oherwydd ei fod o wedi ei ddod o hyd yn euog am y drosedd.

Felly, mae'n angenrheidiol i'r troseddwr fod yn bresennol i wrando ar y ddedfryd.

Mi fydd hynny'n anodd iawn i'w weithredu. Wel, dw i ddim yn credu. Fydd 'na ddigwyddiadau eithriadol fel mae'r diffynnydd yn gwrthod yn llwyr a felly, fydd rhaid defnyddio mesurau corfforol.

Be sy'n amlwg ydy y bydd cyfiawnder troseddol wrth galon ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr wrth i Rishi Sunak geisio cadw gafael ar oriadau 10 Dowing Street.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.