Newyddion S4C

Mohamud Hassan: Heddwas wedi defnyddio grym ‘rhesymol’ medd gwrandawiad

08/11/2023
Mohammed Hassan

Mae gwrandawiad wedi canfod nad oedd heddwas wedi camymddwyn ar ôl arestio Mohamud Hassan.

Cafodd Mr Hassan, 24, ei arestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch ym mis Ionawr 2021.

Cafodd ei gludo i’r ddalfa am oddeutu 10 o’r gloch y nos, gan fynd adre’r bore canlynol heb ei gyhuddo o dorri heddwch, ond bu farw’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Sbardunodd yr achos brotestiadau ar strydoedd Caerdydd. 

Roedd swyddog o Heddlu De Cymru wedi ei gyhuddo o dorri safonau ymddygiad proffesiynol drwy ddefnyddio “grym dianghenraid” yn erbyn Mohamud Hassan.

Ond penderfynodd y gwrandawiad ddydd Mercher ei fod wedi defnyddio grym “angenrheidiol, rhesymol a chymesur”.

‘Anodd’

Dywedodd y swyddog ei fod wedi clywed Mr Hassan yn “paratoi i boeri” pan oedden nhw’n cerdded drwy’r orsaf heddlu.

Roedd wedi dal ei ben ei lawr i’w atal rhag poeri arno a’i gyd-weithwyr, meddai.

Clywodd y gwrandawiad nad oedd yr amser yr oedd Mohamud Hassan wedi ei dreulio yn y carchar wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards: “Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mohamud Hassan wedi’i chael ar ei deulu, ei ffrindiau a’r gymuned ehangach. 

“Mae ein cydymdeimlad ni gyda nhw.

“Ni allwn ond dychmygu pa mor anodd fu’r cyfnod hwn i deulu Mr Hassan a’r boen a’r galar y maent wedi ei ddioddef ar ôl ei farwolaeth.”

Ychwanegodd fod y prawf post mortem wedi dangos nad oedd cysylltiad rhwng gweithredoedd swyddogion yn ystod cyfnod Mr Hassan yn y ddalfa a’i farwolaeth rai oriau’n ddiweddarach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.