Newyddion S4C

Pwysau gormod o gleifion yn 'creu heriau' yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd

09/11/2023
Ysbyty Gwynedd, Bangor

Mae “gorboblogi” yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yn creu heriau i’r adran gan “arwain at risg gynyddol i gleifion,” medd adroddiad.

Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) gyhoeddi’r adroddiad ddydd Iau ar ôl arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys yn yr ysbyty.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi croesawu'r adroddiad gan ddweud ei fod "ar y cyfan yn hynod o bositif."

'Ansawdd gofal'

Dywedodd yr adroddiad bod y pwysau o ran nifer y cleifion sy’n bresennol ar un adeg yn yr adran wedi effeithio ar ansawdd eu gofal a’u preifatrwydd. 

Roedd y pwysau llif hyn yn golygu bod rhai cleifion yn aros am gyfnodau estynedig yn yr uned,” meddai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Oherwydd y gofynion hyn, gwelodd yr arolygwyr gleifion yn eistedd ar goridorau neu ar gadeiriau dros nos, gyda'r bobl yn anghyfforddus iawn a hynny'n cael effaith negyddol ar eu preifatrwydd a'u hurddas. 

“Roedd yr achos hwn o orboblogi yn cael effaith negyddol gyffredinol ar allu'r staff i sicrhau preifatrwydd ac urddas y cleifion ac i ddilyn gweithdrefnau atal a rheoli heintiau.”

Ond roedd yr adroddiad hefyd yn canmol staff yr adran am y ffordd oedden nhw’n ymdrin â staff a’r pwysau gwaith cynyddol.

Ac wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd fod yr adroddiad ar y cyfan yn “hynod o bositif”.

Roedd yr amseroedd aros hir oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r “pwysau ehangach” yn y gwasanaeth iechyd, medden nhw.

'Cadarnhaol'

Wrth gyhoeddi’r adroddiad dywedodd Alun Jones, sef Prif Weithredwr yr AGIC, fod pwysau o ran gorboblogi yn yr adran achosion brys Ysbyty Gwynedd yn gysylltiedig â’r pwysau mae’r GIG yn eu parhau i wynebu hyd a lled y wlad.  

“Mae'r pwysau ar wasanaethau'r GIG yn parhau i fod yn uchel dros ben, ac rydym wedi dod o hyd i dystiolaeth o'r heriau a wynebir gan y staff wrth geisio cynnal safonau gofal uchel mewn amgylchiadau anodd,” meddai. 

Mae’r adroddiad yn nodi sawl maes sydd angen gwella er mwyn mynd i’r afael a gwendidau yng ngofal cleifion, gan gynnwys yr angen i gryfhau’r ymgysylltu a chleifion sydd ag anableddau dysgu. 

Rhaid i gamau “parhaus” ac “effeithiol” gael eu cynnal hefyd er mwyn sicrhau bod claf yn cael gofal arbenigol a, lle bo angen, eu trosglwyddo i ganolfannau gofal arbenigol mewn modd amserol, ychwanegodd yr adroddiad. 

Ond roedd sawl un elfen “cadarnhaol” hefyd i’w nodi fel rhan o’r adroddiad, ac roedd staff yn siarad â chleifion yn “garedig” a “pharchus,” gan gynnig dewis o’r iaith yr oeddent eisiau eu sgwrsio. 

Ychwanegodd Mr Jones ei fod yn “cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff yn y gwasanaeth.”

“Bydd yr argymhellion penodol gennym ar gyfer gwelliannau yn helpu'r bwrdd iechyd i leihau risgiau i gleifion a staff gan barhau i ddelio â'r cyfnod heriol hwn ar yr un pryd,” meddai. 

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.” 

'Adroddiad hynod o bositif'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Ar y cyfan, mae’r adroddiad yn hynod o bositif sy’n dyst i waith caled a phroffesiynoldeb yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd.

"Rydym yn falch bod y tîm arolygu wedi nodi ymrwymiad ein staff i ddarparu gofal o safon uchel, er gwaethaf y gofyn i orfod gweithio dan bwysau sylweddol.

"Yn ystod cyfnod yr arolygiad roeddem dan alw eithriadol. Ond er gwaethaf y pwysau roedd yr arolwg yn nodi fod cleifion yn cael eu hasesu'n briodol wrth gyrraedd yr uned a bod mesurau effeithiol ar waith ar gyfer asesu, monitro ac arsylwi cleifion.

“Rydym hefyd yn falch bod ymdrechion ein Tîm Strôc wedi’u cydnabod yn yr adroddiad, a rheiny’n darparu gofal amserol."

Ychwanegodd y llefarydd: “Er ein bod yn falch bod cleifion wedi dweud wrth y tîm arolygu eu bod yn fodlon gyda’r gwasanaeth cawsant nhw yn yr Adran Achosion Brys, rydym yn cydnabod bod llawer o bobl yn parhau i brofi amseroedd aros llawer hirach nag yr hoffem, er gwaethaf ymdrechion ein staff nyrsio a meddygol. 

“Mae’r amseroedd aros hir yma yn adlewyrchu’r pwysau ehangach sydd i’w weld ledled y system iechyd a gofal, ac mae hynny’n cael effaith anochel ar lif cleifion trwy’r ysbyty cyfan. Mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i wella’r llif."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.