Castell yng Nghaerffili mewn peryg 'difrifol' o ddymchwel
Mae castell yng Nghaerffili mewn peryg “difrifol” o ddymchwel, medd arolygwyr.
Mae Castell Rhiw'r Perrai ger Draethen wedi’i gydnabod fel un o’r adeiladau rhestredig sydd “fwyaf mewn peryg” o ddymchwel yn y sir.
Yn ôl arolygwyr Cyngor Caerffili, mae'r castell bellach yn “ansefydlog.”
Maen nhw'n rhybuddio y gallai’r sir “golli’r” castell yn y “dyfodol agos” os nad oes gwaith adnewyddu yn cael ei gynnal yn fuan.
Ond mae’r castell yn eiddo i berchennog preifat, ac mae hynny’n golygu fod pwerau cyfyngedig gyda’r awdurdod lleol i wneud y gwaith cynnal a chadw, meddai'r arolygwyr.
Mae gan gynghorau bwerau i atgyweirio adeiladau “pan ddaw’n amlwg bod yr adeilad yn cael ei adael i ddirywio,” ond “dewis olaf” ydy’r math yma o weithredu – a hynny’n cynnwys prynu’r adeilad yn orfodol er mwyn sicrhau gwaith atgyweirio “angenrheidiol”,
Mae Castell Rhiw'r Perrai yn heneb gofrestredig, sy'n golygu bod gan Cadw cyfrifoldeb dros ei ddyfodol hefyd.
‘Cyfrifoldeb’
Mae pum adeilad ar dir Castell Rhiw'r Perrai hefyd ar restr adeiladau sydd mewn peryg, ac mae’n debygol y byddai’r cyngor yn cynnal cyfarfodydd gyda’r perchennog, yn ogystal â Cadw, a grŵp ymgyrchu lleol dros ddyfodol y castell, sef ‘Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw'r Perrai’.
Wrth siarad mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu Corfforaethol ac Adfywio’r cyngor ddydd Mawrth, dywedodd Charlotte Rogers o’r grŵp ymgyrchu nad oedd “syndod” ganddi fod y castell wedi’i gofrestru fel adeilad mewn peryg o ddymchwel.
“Mae angen sicrhau fod y castell yn ddiogel fel blaenoriaeth, er lles diogelwch y cyhoedd a thrigolion lleol,” meddai.
Dywedodd swyddog treftadaeth y cyngor, Peter Thomas, wrth y pwyllgor fod “dylanwad cyfyngedig iawn” gan yr awdurdod lleol ar y safle.
Ond mae’r pwyllgor bellach wedi cytuno i drosglwyddo rhai o awgrymiadau’r grŵp ymgyrchu i gabinet y cyngor y mis nesaf.