Undeb yr RMT yn ‘croesawu’ cam tuag at ddod a streiciau rheilffyrdd i ben
Mae undeb gweithwyr rheilffyrdd yr RMT wedi dweud eu bod yn “croesawu” cam newydd tuag at ddod a streiciau i ben.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT Mick Lynch eu bod nhw wedi datblygu “memorandwm o ddealltwriaeth” gyda’r Rail Delivery Group sy’n cynrychioli cwmnïoedd y rheilffyrdd.
Byddai’r cytundeb yn cynnwys codiad cyflog wedi’i ddyddio yn ôl i 2022 ar gyfer staff a sicrwydd swyddi, meddai’r RMT.
"Mae hwn yn ddatblygiad i'w groesawu,” meddai Mick Lynch.
“Bydd ein haelodau nawr yn penderfynu mewn e-refferendwm a ydyn nhw am dderbyn y cynnig newydd hwn gan y Rail Delivery Group.”
Mae’r gweithredu diwydiannol rhwng yr RMT a’r Rail Delivery Group wedi achosi oedi i filiynau o deithwyr ers i'r ffrae ddechrau yn haf 2022.