Apêl am dystion ar ôl canfod dyn yn farw tu allan i ysbyty ym Mhen-y-bont
08/11/2023
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy dyn 31 oed o ardal Bracla ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y dyn ei ddarganfod ar safle Ysbyty Tywysoges Cymru toc wedi 11.00 ddydd Mawrth.
Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, meddai’r llu.
Dywedodd yr heddlu fod ei berthnasau agosaf a'r crwner wedi cael gwybod.
Dylai unrhyw lygad-dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu trwy ddyfynnu'r cyferinod 2300379519.