Ofcom yn cyhoeddi mesurau i ddiogelu plant rhag deunydd 'niweidiol' ar-lein
Mae Ofcom wedi cyhoeddi mesurau newydd er mwyn ddiogelu plant rhag gweld deunydd anghyfreithlon ar-lein.
Mae’r corff rheoleiddio wedi cyhoeddi mesurau newydd ddydd Iau, a hynny mewn ymdrech i fynd i’r afael â cham-drin plant ar y we.
Daw fel rhan o Ddeddf Diogelwch Ar-lein, a ddaeth yn gyfraith y mis diwethaf, gyda'r bwriad o ddiogelu plant rhag cynnwys fel pornograffi neu gynnwys sy’n annog hunanladdiad.
Bydd gofyn pellach ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol i asesu’r risg o’u cynnwys, gan sicrhau eu bod yn cymryd camau priodol i amddiffyn cynulleidfaoedd iau rhag y fath ddeunydd.
Dywedodd Prif Weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes, ei bod yn disgwyl i gwmnïau technoleg amddiffyn unigolion rhag niwed anghyfreithlon ar-lein tra’n cynnal “rhyddid mynegiant.”
“Mae plant wedi dweud wrthym am y peryglon maent yn eu hwynebu, ac rydym yn benderfynol o greu bywyd mwy diogel ar-lein i bobl ifanc yn arbennig,” meddai.
Fel rhan o’r mesurau newydd, ni fydd ‘rhestr ffrindiau’ yn cael eu hawgrymu i blant ar y cyfryngau cymdeithasol ac ni fydd plant yn ymddangos ar restrau ffrindiau defnyddwyr eraill.
Ni fydd cysylltiadau plant yn weladwy i ddefnyddwyr eraill chwaith, a ni all cyfrifon y tu allan i restr cysylltiadau plentyn anfon negeseuon uniongyrchol atynt.
‘Diogelu rhag perthnasau anghyfreithlon’
Fe fydd y mesurau hefyd yn ceisio mynd i’r afael a pherthnasau anghyfreithlon sy’n eu cynnal rhwng oedolion a phlant ar-lein.
Yn ôl ymchwil Ofcom, mae oddeutu un o bob chwe phlentyn ysgol wedi derbyn lluniau o rywun yn noeth neu’n hanner noeth, neu wedi cael cais i rannu lluniau personol o’u hunain.
“Mae ein ffigurau’n dangos bod y rhan fwyaf o blant ysgol uwchradd wedi derbyn cysylltiad ar-lein mewn ffordd sy’n gwneud iddynt deimlo’n anesmwyth,” ychwanegodd y Fonesig Melanie.
“Petai’r cysylltiadau digroeso hyn yn digwydd mor aml yn y byd allanol, go brin byddai’r rhan fwyaf o rieni am i’w plant adael y tŷ,” meddai.
Dywedodd Prif Weithredwr yr NSPCC, Syr Peter Wanless: “Yn y pum mlynedd mae wedi’u cymryd i gael y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar y llyfr statud, mae troseddau meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein wedi cynyddu 82%, sy’n syfrdanol.
“Dyna pam mae cymaint o groeso i ffocws Ofcom ar fynd i’r afael â meithrin perthynas amhriodol â phlant, gyda’r cod ymarfer hwn yn amlinellu’r camau sylfaenol y dylai cwmnïau fod yn eu cymryd i amddiffyn plant yn well.”
Bydd ymdrechion Ofcom i ddiogelu plant ar-lein yn parhau yn y dyfodol agos, gyda disgwyl iddynt gynnig canllawiau ynghylch sut dylai safleoedd i oedolion gydymffurfio â’u dyletswydd i sicrhau na all plant gael gafael ar gynnwys pornograffig.
Erbyn gwanwyn 2024, mae’r corff rheoleiddio hefyd yn bwriadu mynd i’r afael a chynnwys “niweidiol” sy’n hyrwyddo hunan-niwed, anhwylderau bwyta a seiberfwlio.