Carol Vorderman yn dweud fod rheolwyr BBC Cymru wedi 'penderfynu fod rhaid i mi adael'
Mae Carol Vorderman wedi dweud y bydd hi’n gadael y BBC oherwydd canllawiau cyfryngau cymdeithasol y darlledwr.
Mae Ms Vordeman yn cyflwyno'r rhaglen fore Sadwrn ar BBC Radio Wales.
Dywedodd ei bod hi wedi "torri canllawiau" y BBC a bod rheolwyr BBC Cymru "wedi penderfynu fod rhaid i mi adael".
"Yn ddiweddar, cyflwynodd y BBC ganllawiau cyfryngau cymdeithasol newydd yr ydw i yn eu parchu," meddai.
"Ond er bod fy sioe yn ysgafn a heb unrhyw gynnwys gwleidyddol, esboniwyd i mi gan ei bod yn sioe wythnosol yn fy enw i, y byddai'r canllawiau newydd yn berthnasol i unrhyw gynnwys y byddaf yn ei gyhoeddi trwy gydol y flwyddyn."
Dywedodd "nad oedd nodd trafod" y negeseuon rheini i'w chytundeb.
"Rydw i wedi penderfynu nad ydw i'n barod i golli fy llais ar gyfryngau cymdeithasol, newid pwy ydw i, na cholli’r gallu i fynegi fy marn yn gryf am y llanast gwleidyddol y mae'r wlad hon wedi ei chael ei hun ynddo."
Inline Tweet: https://twitter.com/carolvorders/status/1722226423518368064?s=20
Dywed llefarydd ar ran BBC Cymru: “Mae Carol wedi cyflwyno ar BBC Radio Wales ers 2018. Hoffem ddiolch iddi am ei gwaith a’i chyfraniad i’r orsaf dros y pum mlynedd diwethaf.”