Cyhoeddwr papurau newydd a gwasanaethau newyddion i gael gwared â 450 o swyddi
Bydd tua 450 o swyddi yn diflannu gyda chyhoeddwr Reach - y grŵp sy'n gyfrifol am nifer fawr o wasanaethau newyddion fel The Western Mail, WalesOnline, y Daily Mirror a'r Express.
Mae'r grŵp yn ceisio gwneud toriadau ariannol pellach, o dan gynlluniau i leihau costau 5%-6% yn 2024.
Mae'r cwmni wedi torri 6% oddi ar eu costau eleni, ac maen nhw eisoes wedi diswyddo 330 o weithwyr yn 2023.
Bydd y cyhoeddiad diweddaraf yn effeithio ar ryw 10% o holl weithlu'r grŵp, sef 4,500. Yn ôl Reach, bydd swyddi newyddiadurol, masnachol ac argraffu yn diflannu erbyn diwedd y flwyddyn. Ond dyw hi ddim yn glir gyda pha gyhoeddiadau yn benodol.
Yn ôl y grŵp, bydd yr arbedion diweddaraf yn eu galluogi i roi hwb i'w darpariaeth ar-lein.
Dyweodd Prif Weithredwr Reach, Jim Mullen: “Mae newid yn rhan o hanes ein diwydiant, ac mae'r newid hwnnw yn sicr yn perthyn i'r dyfodol hefyd."
“Mae mwy o waith i'w wneud wrth i ni roi trefn ar ein busnes a darparu gwasanaeth yng nghanol heriau.”