Geraint Thomas 'yn bendant' y bydd yn dysgu Cymraeg ar ôl ymddeol
Mae'r seiclwr Geraint Thomas wedi dweud ei fod yn bwriadu dychwelyd i Gymru a dysgu Cymraeg wedi iddo ymddeol o'r gamp.
Tra'n siarad â Behnaz Akhgar ar Radio Wales, dywedodd y bydd "yn bendant" yn dysgu Cymraeg wedi iddo gamu oddi ar ei feic a dychwelyd i fyw i Gymru. Ychwanegodd y bydd ei fab yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg.
"Fedrai ddim ei gael yn siarad Cymraeg gyda fy ngwraig a finne ddim yn deall,"meddai.
"Dyna'r peth cyntaf ar yr agenda," ychwanegodd.
Dywedodd hefyd y bydd yn bendant yn dychwelyd i Gaerdydd lle cafodd ei fagu.
"Mae fy nheulu yma, mae teulu fy ngwraig yma."
Inline Tweet: https://twitter.com/BBCRadioWales/status/1721943093035831486
Fis Hydref, arwyddodd Geraint Thomas gytundeb newydd gydag Ineos Grenadiers.
Bydd yn ymestyn ei gyfnod gyda'r tîm, gan arwyddo cytundeb newydd dwy flynedd a fydd yn parhau tan 2025.
Mae'r cyn-enillydd Tour de France yn un o seiclwyr amlycaf Ineos Grenadiers dros y blynyddoedd diwethaf, a daeth yn ail yn y Giro d'Italia ym mis Mai eleni.
Ond wrth i hynny gael ei gyhoeddi, awgrymodd Geraint Thomas sydd yn 37 oed mai dyma fyddai ei gytundeb olaf.