Newyddion S4C

Angen gwella arwyddion at Gastell Sycharth

07/11/2023

Angen gwella arwyddion at Gastell Sycharth

Mae'r ardal i'r de o Lansilin a rhyw filltir o'r ffîn â Lloegr yn ddigon cyffredin ond yng nghanol y bryniau a'r coed yma yng ngogledd Powys mae 'na ddarn bach o hanes yn cuddio. Castell Sycharth. Mae'n dawel 'ma yn Sir Drefaldwyn heddi ond dros 600 mlynedd yn ôl, roedd 'na lot fwy o fywyd yng nghartre Owain Glyndŵr.

Roedd ymwelwyr yn dod o bell ac agos, a sicrhau bod ymwelwyr dal yn gallu cyrraedd 'ma yw'r alwad heddi.

A hynny drwy osod arwyddion twristiaeth brown ar hyd y ffyrdd i'r castell mwnt a beili er mwyn hwyluso'r broses o ddarganfod y safle.

Mae eisiau neud y mwyaf o gyfleon twristiaeth diwylliannol. Dyna'r term ffasiynol dyddiau yma. Flwyddyn nesaf, mae 'da chi Steddfod yr Urdd rhyw bum, chwe milltir lawr y ffordd dros 100,000 o bobl yn mynd i ymweld yma.

Y math o bobl fyddai â diddordeb yn ein hanes a threftadaeth ac felly mae eisiau gwneud y mwyaf o hynny. Nid gweld e fel problem ond gweld o fel cyfle.

I gyrraedd Castell Sycharth rhaid gyrru trwy lonydd cefn Sir Drefaldwyn. Lonydd cul yw'r rhain a dyw hi ddim yn gwbl amlwg hyd yn oed ar ddiwrnod braf fel heddi ble yn gwmws mae Castell Sycharth.

Ni 'di bod yn gyrru'r bore 'ma a ddim wedi gweld yr un arwydd ar gyfer y castell.

Byth a beunydd, clywed am bobl sydd yn trio cyfarfod yn y lle ac yn methu dod o hyd iddo fo. Amaturiaid wedi bod yn rhoi arwyddion i fyny bob hyn a hyn ond be sydd angen ydy arwyddion swyddogol.

Yn ddiweddar, fe sgwennodd ddau o Aelodau o'r Senedd Plaid Cymru Cefin Campbell a Heledd Fychan at Gyngor Powys yn galw arnyn nhw ystyried codi arwyddion twristiaeth.

Mewn ymateb, fe ddywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach ei bod hi'n deall yr angen i gael arwyddion digonol ar gyfer ein safleoedd hanesyddol amlwg a phwysig ond taw nifer cyfyngedig o lefydd parcio oedd yn Sycharth ac y gallai arwyddion ddenu mwy o ymwelwyr na mae'r safle'n gallu ei ddal.

Mae'r dystiolaeth gyfyngedig sy i'w gael yn dangos falle nad oes lot fawr o impact gan yr arwyddion brown beth bynnag yn sicr ar gyfer pobl falle sy'n digwydd teithio ar hyd yr hewl ac yn meddwl, "Dw i'n gweld arwydd brown fan hyn ar gyfer rhyw safle penodol - wna i daro mewn i gael gweld be sy i'w gynnig gan y safle yma."

Maen nhw'n fwy defnyddiol falle ar gyfer pobl sy'n teithio falle ddim yn siŵr ble mae'r safle ond mae'r rheina'n bobl sy wedi cynllunio i fynd i'r safle beth bynnag.

Yn nhre Llanfyllin, rhyw wyth milltir o'r castell roedd pobl leol yn sicr eu barn ynglŷn a chodi arwyddion brown. Fysa'n syniad da i gael pobl i wybod amdan y lle a gwybod am y lle a dw i'n gwybod mae hanes y lle yn yr achos yma mae e'n lle pwysig yn hanes Cymru.

Dw i'n meddwl bod angen rhywbeth achos pan 'dach chi'n mynd yna oni bai boch chi'n gwybod lle mae'r lle mae hi'n anodd ffeindio fo. Ie, ie, wrth gwrs i bobl wybod lle mae o achos mae o allan yn y wlad a does yna'm arwyddion na'm byd dw i 'di weld.

Ar hyn o bryd, dibynnu ar y llywiwr lloeren yw'r opsiwn gorau i ddod o hyd i Gastell Sycharth a'r ddadl ynglŷn ag arwyddion twristiaeth yn rhygnu 'mlaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.