Newyddion S4C

Nifer fwyaf erioed o barseli bwyd yn cael eu darparu i deuluoedd yng Nghymru

08/11/2023
Banc bwyd Sir y Fflint

Mae ffigurau newydd gan Ymddiriedolaeth Trussell yn datgelu bod eu banciau bwyd yng Nghymru wedi dosbarthu’r nifer fwyaf erioed o barseli bwyd brys rhwng misoedd Ebrill a Medi eleni. 

Cafodd 32,150 o barseli bwyd eu darparu ar gyfer 19,600 o blant ledled Cymru. Mae hynny'n fwy nag erioed o’r blaen dros gyfnod o chwe mis.

Mae'n gynnydd o 14% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, medd yr elusen.

Rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni, cafodd 88,518 o barseli bwyd brys eu darparu i bobl gan fanciau bwyd yn rhwydwaith yr elusen yng Nghymru.

Dyma’r nifer fwyaf o barseli y mae’r rhwydwaith wedi’u darparu erioed yn y cyfnod hwn ac mae'n gynnydd o 15% o gymharu â'r un cyfnod yn 2022.

Yn ôl yr elusen, incwm isel, dyled, cyflyrau iechyd a phroblemau gyda budd-daliadau, oedd y prif resymau dros ddefnyddio banc bwyd.  

Ac yn ôl yr elusen, defnyddiodd 23,600 o bobl fanc bwyd am y tro cyntaf yn y chwe mis diwethaf yng Nghymru, 

Yn sgil y ffigurau hyn mae’r ymddiriedolaeth yn rhybuddio bod banciau bwyd wedi cyrraedd sefyllfa bryderus, wrth i fwy a mwy o bobl mewn cymunedau ledled Cymru ei chael hi'n anodd dal dau ben llinyn ynghyd. 

'prysur iawn'

Dywedodd Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon: "Ym Manc Bwyd Arfon, rydym ni wedi gweld mwy a mwy o bobl yn dod atom ni o bob rhan o gymdeithas. 

“Rydym ni’n paratoi ar gyfer yr hyn yr ydym ni’n ei ddisgwyl fydd yn aeaf prysur iawn, ac rydym ni’n ddiolchgar i bawb sy’n rhoi i gefnogi ein gwaith. 

“Ond bob wythnos rydym ni’n rhoi parseli at ei gilydd i gynorthwyo hyd at 120 o bobl, ac rydym ni allan yn prynu eitemau bwyd yn gyson i sicrhau nad ydyn nhw’n mynd yn brin. 

“Rydym ni’n gweithio’n galed i gael cymorth i ymwelwyr â banciau bwyd, ond i rai pobl, yn enwedig y rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain neu mewn llety dros dro, ychydig y gallwn ni ei wneud y tu hwnt i gynnig parsel o fwyd, diod gynnes a sgwrs. Mae ein hadnoddau eisoes o dan gryn dipyn o straen, a newydd gychwyn mae’r gaeaf."

Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio Datganiad yr Hydref sydd ar fin cael ei gyhoeddi yn San Steffan i amddiffyn aelwydydd â’r incwm isaf. 

Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol i leihau ac atal yr angen am gymorth bwyd brys.

'Ystadegau brawychus'

Dywedodd Susan Lloyd-Selby, Arweinydd Rhwydwaith Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru yn Ymddiriedolaeth Trussell bod yr ystadegau yn “frawychus dros ben.”

“Mae nifer cynyddol o blant yn cael eu magu mewn teuluoedd sy’n wynebu diffyg bwyd, wedi’u gorfodi i droi at fanciau bwyd i oroesi. 

“Mae cenhedlaeth yn tyfu i fyny yn credu ei bod hi’n arferol gweld banc bwyd ym mhob cymuned. Nid yw hyn yn iawn. 

“Mae diffyg bwyd a chaledi cynyddol yn arwain at ganlyniadau ofnadwy i unigolion a’n cymunedau, yn niweidio iechyd y genedl ac yn dal ein heconomi yn ôl. 

“Mae pobl sy’n gweithio, yn ogystal â phobl nad ydyn nhw’n gallu gweithio, yn cael eu gwthio fwyfwy o ddyled ac yn cael eu gorfodi i droi at fanc bwyd i oroesi.   

“Dyna pam mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru adeiladu ar ei gwaith i amddiffyn pobl rhag caledi cynyddol ddifrifol. 

“Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Strategaeth Tlodi Plant yn targedu camau ar gyfer y plant sydd yn y perygl mwyaf o dlodi,” meddai Susan Lloyd-Selby. 

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eu hymateb 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.