Newyddion S4C

Ysgol leiaf Gwynedd i gau ei drysau ar ddiwedd y flwyddyn

07/11/2023
S4C

Bydd ysgol leiaf Gwynedd, Ysgol Felinwnda, yn cau ei drysau yn swyddogol ddiwedd y flwyddyn.

Mae gan Ysgol Felinwnda yn Llanwnda ar gyrion Caernarfon wyth disgybl yn unig. 

Pleidleisiodd cabinet Cyngor Gwynedd o blaid cau’r ysgol ym mis Gorffennaf eleni, ond daeth cadarnhad yn ffurfiol ddydd Mawrth y byddai'n cau ar 31 Rhagfyr eleni. 

Cafodd pedwar o wrthwynebiadau eu cynnig i gau yr ysgol, ond dywedodd y cyngor eu bod yn 'parhau i fod yn argyhoeddedig' mai cau'r ysgol fyddai'r 'ymateb mwyaf priodol'.

Bydd disgyblion yr ysgol yn cael y dewis i drosglwyddo i ysgolion cyfagos, sef naill ai Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog o 1 Ionawr 2024. 

Byddant hefyd yn cael trafnidiaeth am ddim i'w hysgolion newydd.

Byddai hyn yn ôl y cyngor yn datrys heriau dosbarthiadau bychain a chostau uchel drwy 'gynnig addysg mewn dosbarthiadau o faint mwy addas a gyda mwy o blant o'r un oedran' tra hefyd yn 'lleihau cost y pen'.

Mae nifer y disgyblion yn Ysgol Felinwnda wedi parhau i ostwng dros y blynyddoedd, meddai’r cyngor. 

Ar hyn o bryd, mae'r disgyblion yn cael eu rhannu'n ddau ddosbarth rhwng dau athro.

Dywedodd y cyngor hefyd fod disgwyl i nifer y disgyblion ostwng ymhellach o’r wyth sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd, i bump erbyn Medi 2024, ac yna i dri'r flwyddyn ganlynol. 

Roedd 31 o ddisgyblion yn Ysgol Felinwnda yn 2012. 

'Cynnig yr addysg gorau posib'

Dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd y Cynghorydd Beca Brown: "Mae’r penderfyniad i gau Ysgol Felinwnda yn destun tristwch ac yn dod ar gynffon cyfnod eithriadol o anodd i ddysgwyr, rhieni, athrawon a phawb sydd ynghlwm â’r ysgol.

"Ar yr un pryd, mae’n ddyletswydd arnom fel Cyngor i gynnig yr addysg, profiadau a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant i ddatblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog cyflawn. Yn hyn o beth, rydym yn unfrydol o’r farn fel Cabinet mai’r penderfyniad anodd yma yw’r un cywir.

"Ein blaenoriaeth rŵan fydd sicrhau fod dysgwyr Felinwnda yn derbyn yr holl gefnogaeth ymarferol ac emosiynol maent angen i ymgartrefu yn eu hysgolion newydd. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi a chydweithio efo’r cynghorwyr sir lleol, Cyngor Cymuned Llanwnda a’r gymuned leol."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.