Araith y Brenin: Cyfraith a threfn wrth galon 'gweledigaeth' Rishi Sunak
Mae Rishi Sunak yn mynnu ei fod wedi "troi'r gornel" er mwyn rhoi'r Deyrnas Unedig ar lwybr gwell wrth iddo amlinellu ei flaenoriaethau a'i weledigaeth, gydag Etholiad Cyffredinol yn agosáu.
Wrth agor tymor y senedd newydd am y tro cyntaf fel Brenin, cyflwynodd y Brenin Charles gynlluniau'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.
Mae'n cynnwys cyfres o gyfreithiau cyfiawnder troseddol. Gall y rhai sy'n euog o'r llofruddiaethau mwyaf echrydus, ddisgwyl dedfryd o garchar am oes, a hynny'n gyflawn. Mae hynny'n golygu na fyddan nhw fyth yn cael eu rhyddhau.
Byd cyfreithiau llymach hefyd ar gyfer treiswyr a'r rhai sy'n euog o droseddau rhyw difrifol eraill, sy'n golygu na fyddai gobaith iddyn nhw gael eu rhyddhau o garchar yn gynnar ar drwydded.
Mae mesurau eraill yn cynnwys rhoi grymoedd i'r heddlu i gael mynediad i gartref neu adeilad heb warant yn ystod ymgyrchoedd i ddod o hyd i nwyddau sydd wedi eu dwyn, os oes prawf rhesymol bod y nwyddau coll hynny yn yr adeilad dan sylw.
Ar faterion amgylcheddol, cafodd deddfwriaeth ei chyhoeddi sy'n golygu y bydd trwyddedau yn angenrheidiol wrth gloddio am olew a nwy ym Môr y Gogledd.
Roedd Araith y Brenin hefyd yn cynnwys cyfraith newydd sy'n golygu na fydd plant sy'n troi'n 14 oed eleni, a'r rhai sy'n iau na hynny, fyth yn gallu prynu sigaréts yn gyfreithlon yn ystod eu hoes yn Lloegr. Roedd Mr Sunak wedi addo hynny yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol. Bydd y mesur hwn yn cael ei weithredu yn Lloegr, ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn gweithio'n agos â'r llywodraethau datganoledig, wrth ystyried eu cynlluniau ar gyfer ysmygu a fêpio.
Addawodd Mr Sunak y bydd yn parhau i gefnogi Israel, ond doedd dim cyfeiriad at unrhyw weithredu i gynorthwyo pobl sy'n byw mewn pebyll ar strydoedd, wedi i'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman gorddi'r dyfroedd yn ddiweddar, pan awgrymodd mai "dewis" oedd hynny.
Cyhoeddodd y Llywodraeth hefyd y bydd yn cyflwyno Mesur y Cyfryngau fyddai’n atgyfnerthu statws S4C fel darlledwr Cymraeg.
'Problemau'
Mae'r pecyn o 20 mesur yn cynnwys :
– Newid y gyfraith yn ymwneud â phrydlesi ar gyfer tai newydd yng Nghymru a Lloegr, er mwyn gwella tegwch yn y farchnad dai. Gyda thŷ sy'n cael ei werthu fel prydles, mae'r prynwr yn berchen ar yr eiddo nes daw'r brydles i ben yn unig. Bryd hynny, bydd y person a werthodd yr eiddo yn ei gael yn ôl. Bydd yr arfer hwn yn dod i ben ar gyfer eiddo newydd.
– Dechrau ar y broses o gyflwyno ceir a bysus sy'n medru gyrru eu hunain ar ffyrdd y Deyrnas Unedig, drwy sefydlu fframwaith sy'n seiliedig ar ddiogelwch.
– Gwahardd allforion da byw ar gyfer eu lladd.
“Rydym wedi troi'r gornel yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac wedi rhoi'r Deyrnas Unedig ar lwybr gwell," meddai.
Gyda'r Brenin Charles yn traddodi ei araith gyntaf yn y senedd fel Brenin, roedd protestwyr sy'n gwrthwynebu'r frenhiniaeth wedi ymgynnull y tu allan i'r Senedd yn San Steffan.
Mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer eisoes wedi dweud na fydd polisïau'r Llywodraeth yn llwyddo: “Ni all y Torïaid ddatrys y problemau hyn am eu bod nhw eisoes wedi methu," meddai.
"Mae Rishi Sunak yn cyfaddef bod angen newidiadau, ond ni all ei lywodraeth wireddu hynny."