Carcharu cyn blismon am droseddau cam-drin domestig
Mae cyn blismon wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a chwe mis ar ôl pledio'n euog i sawl trosedd cam-drin domestig.
Ymddangosodd Nathan Collings, 34, o Abertyleri, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.
Roedd eisoes wedi pledio yn euog i sawl trosedd mewn gwrandawiad blaenorol, gan gynnwys tri chyhuddiad o reoli drwy orfodaeth a dau gyhuddiad o fygwth i gyhoeddi lluniau neu ffilmiau rhywiol a phreifat.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Williams: "Mae'r troseddau a gafodd eu cyflawni gan Nathan Collings yn ofnadwy.
"Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae'r mathau hyn o droseddau yn eu cael ar ddioddefwyr.
"Mae'r achos yma yn dangos y bydd dioddefwyr yn yr achosion hyn yn cael eu credu pan y maen nhw'n cymryd y camau cyntaf i siarad yn gyhoeddus gan bod cyfiawnder wedi digwydd gyda Collings bellach yn wynebu goblygiadau ei weithredoedd.
"Mae'r ymddygiad yma yn tanseilio hyder mewn swyddogion heddlu, gyda'r mwyafrif ohonynt yn gweithio yn ddiflino i sicrhau bod eu cymunedau yn ddiogel ac yn rhydd o drosedd."
Ni ymddangosodd Collins yn y llys yn ei wrandawiad fis diwethaf, ond ar ôl i'r cyhuddiadau o gamymddwyn difrifol gael eu profi, bydd ei enw yn cael ei ychwanegu at restr y Coleg Plismona o aelodau sydd wedi eu gwahardd.