Newyddion S4C

Euogfarn i lofrudd oedd â'i draed yn rhydd am 39 mlynedd tra'n esgus bod yn Gymro oedd wedi marw

07/11/2023
Bryan

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio dyn o Wlad Pwyl 39 mlynedd yn ôl cyn iddo ffoi i gyfandir Ewrop gan ddefnyddio hunaniaeth Cymro oedd wedi marw.

Roedd Paul Bryan yn 22 oed pan ymosododd ar Roman Szalajko, 62 oed, yn ei fflat yn Ne Kennington, Llundain, ym mis Chwefror 1984.

Yn dilyn y llofruddiaeth fe ddefnyddiodd fanylion Cymro o'r un enw oedd wedi marw gan fyw ym Mhortiwgal, Creta, Sbaen a Ffrainc.

Daeth i sylw'r heddlu yn dilyn adolygiad hanesyddol o'r achos yn 2013 pan ganfuwyd olion ei fysedd ar botel yn lleoliad y llofruddiaeth.

Ond ni chafodd ei ddarganfod am ddegawd arall yn dilyn ymdrechion gan dditectifs o Scotland Yard, aeth i'w arestio pan oedd yn camu o awyren ym Mhortiwgal

Fe gyfaddefodd i fod â phasbort ffug yn ei feddiant, cyn iddo gael ei ddedfrydu'n euog ar ddiwedd achos llys yn yr Old Bailey ddydd Mawrth.

Canlyniad

Wrth siarad tu allan i'r llys, dywedodd y Ditectif Sarjant Quinn Cutler, oedd wedi chwilio am Bryan am ddegawd, ei fod "wedi ei fodloni" gyda chanlyniad yr achos.

Dywedodd wrth asiantaeth newyddion PA: "Rwyf yn fwy bodlon ar ran teulu Szalajko sydd wedi treulio 40 o flynyddoedd yn ceisio meddwl beth ddigwyddodd i'w tad a'u taid."

Disgrifiodd Mr Cutler Bryan fel "ffantasïwr" oedd wedi byw ar ennillion ei wraig oedd yn rhedeg cwmni teithio, cyn dychwelyd i Brydain yn dilyn ei marwolaeth.

“Mae wedi byw y rhan fwyaf o’i oes fel person arall. Mae'n cymryd arno ei fod yn Americanwr, mae'n esgus ei fod wedi bod yn y Fyddin ac wedi dianc oddi yno.

“Nid oes dim y mae’n ei ddweud yn wir ac mae’n anodd iawn deall beth mae wedi’i wneud mewn gwirionedd am y 40 mlynedd ddiwethaf.

“Yr hyn rydyn ni’n gwybod ei fod wedi’i wneud yw bod yn rhan o lofruddiaeth Roman Szalajko nôl ym 1984 o’r dystiolaeth fforensig cryf iawn roedd fy nghydweithwyr yn yr adran fforensig wedi gallu ei adnabod.”

Cafodd Bryan ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Nigel Lickley KC, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 8 Rhagfyr.

Llun: Heddlu'r Met

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.