Ail-agor rhan o ffordd yr A470 wedi 'gwrthdrawiad difrifol'
07/11/2023
Mae rhan o ffordd yr A470 bellach ar agor yn dilyn yr hyn yr oedd Heddlu’r De yn ei ddisgrifio fel "gwrthdrawiad difrifol".
Cafodd un llain o'r ffordd ei gau i gyfeiriad y gogledd rhwng Nantgarw a Coryton fore dydd Mawrth, ond mae’r ffordd bellach ar agor.
Mae oedi “sylweddol” yn parhau yn yr ardal ac mae’r heddlu eisoes wedi annog teithwyr i ddefnyddio ffyrdd eraill am y tro i gyrraedd pen eu taith.