Araith y Brenin: Cyfraith a threfn ar frig blaenoriaethau Rishi Sunak
Cyfraith a threfn fydd blaenoriaeth Rishi Sunak, wrth iddo baratoi i gyhoeddi cyfres o fesurau yn Araith y Brenin, gan addo dedfrydau llymach ar gyfer llofruddion a threiswyr.
Gyda'r dyfalu y bydd Etholiad Cyffredinol yn 2024, mae'r Prif Weinidog yn y broses o gyflwyno cyfres o gyfreithiau cyfiawnder troseddol, wrth iddo amlinellu rhaglen Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y tymor seneddol newydd yn San Steffan.
Mae hynny yn cynnwys cynlluniau sydd eisoes wedi eu datgelu. Gall y rhai sy'n euog o'r llofruddiaethau mwyaf echrydus, ddisgwyl dedfryd o garchar am oes, a hynny'n gyflawn. Mae hynny'n golygu na fyddan nhw fyth yn cael eu rhyddhau.
Mae disgwyl cyfreithiau llymach hefyd ar gyfer treiswyr a'r rhai sy'n euog o droseddau rhyw difrifol eraill, sy'n golygu na fyddai gobaith iddyn nhw gael eu rhyddhau o garchar yn gynnar ar drwydded.
Mae mesurau eraill yn cynnwys rhoi grymoedd i'r heddlu i gael mynediad i gartref neu adeilad heb warant yn ystod ymgyrchoedd i ddod o hyd i nwyddau sydd wedi eu dwyn, os oes prawf rhesymol bod y nwyddau coll hynny yn yr adeilad dan sylw.
Teimlo 'balchder a thawelwch meddwl'
Dywedodd y Prif Weinidog: “Rydw i eisiau i bawb i deimlo'r balchder a'r tawelwch meddwl pan yn gwybod fod eich cymuned yn lle diogel - y man lle ry'ch chi yn magu eich teulu, yn mynd â'ch plant i'r ysgol, eich bod yn teimlo'n ddiogel. Dyma fy ngweledigaeth - sut y gallai Prydain edrych yn well."
Mae rhai Ceidwadwyr blaenllaw o'r farn bod canolbwyntio ar faterion 'sylfaenol' Ceidwadol, gan gyflwyno'r ymrwymiadau ym maniffesto Boris Johnson yn 2019 o fantais i Mr Sunak wrth iddo geisio newid yr arolygon barn sy'n awgrymu mai Llafur yw'r ceffyl blaen ar hyn o bryd.
Mae disgwyl hefyd i Araith y Brenin gynnwys cyfraith newydd a fyddai'n golygu na fyddai plant sy'n troi'n 14 oed eleni fyth yn gallu prynu sigaréts yn gyfreithlon yn ystod eu hoes yn Lloegr. Roedd Mr Sunak wedi addo hynny yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol.
Gyda'r Brenin Charles yn traddodi ei araith gyntaf yn y senedd fel Brenin, mae disgwyl i brotestwyr sy'n gwrthwynebu'r frenhiniaeth ymgynnull y tu allan i'r Senedd yn San Steffan.
Mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer eisoes wedi dweud na fydd polisïau'r Llywodraeth yn llwyddo: “Ni all y Torïaid ddatrys y problemau hyn am eu bod nhw eisoes wedi methu," meddai.
"Mae Rishi Sunak yn cyfaddef bod angen newidiadau, ond ni all ei lywodraeth wireddu hynny."
Llun: Joe Giddens/PA Wire