Swyddfa'r Post yn cynnig dosbarthu parseli gyda DPD ac Evri
Fe fydd Swyddfa'r Post yn cynnig y dewis i gwsmeriaid i anfon pecynnau gan ddefnyddio DPD ac Evri yn y dyfodol.
Am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd cwsmeriaid Swyddfa'r Post yn gallu dewis cludwyr parseli eraill dros y cownter mewn canghennau.
Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau mewn rhai canghennau ar gyfer tymor dosbarthu brig y Nadolig.
Dywedodd Swyddfa'r Post fod y cyhoeddiad yn nodi datblygiad y gwasanaeth i fod yn gyrchfan lle all cwsmeriaid gael mynediad at sawl cludwyr o dan yr un to.
Bydd cwsmeriaid Swyddfa'r Post yn gallu cerdded i fyny at gownter a dewis anfon eu parseli gyda DPD neu Evri, yn ogystal â gwasanaethau presennol.
'Mwy o ddewis'
Dywedodd prif weithredwr Swyddfa’r Post Nick Read: “Rydym yn trawsnewid Swyddfa’r Post yn sylfaenol drwy gyflwyno cludwyr post newydd ar gyfer gwerthiannau dros y cownter am y tro cyntaf yn ein hanes 360 mlynedd.
“Mae’r bartneriaeth estynedig hon gyda DPD ac Evri yn dangos sut rydym yn tarfu ar y farchnad bost i gynnig mwy o ddewis i gwsmeriaid a mwy o gyfleoedd i bostfeistri wrth i ni adeiladu Swyddfa Bost sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Neill O’Sullivan, rheolwr gyfarwyddwr parseli a phost yn Swyddfa’r Post: “Mae Swyddfa’r Post yn arloesi i fodloni dewisiadau newidiol cwsmeriaid a’r farchnad gynyddol gystadleuol. Ein nod yw darparu mynediad heb ei ail i wasanaethau parseli, gan fynd i'r afael ag anghenion busnesau a chwsmeriaid manwerthu, nawr ac yn y dyfodol.
“Mae’n gyffrous iawn cael cludwyr mawr DPD ac Evri fel ein partneriaid lansio ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws y canghennau dros y misoedd nesaf.”