Newyddion S4C

Cynlluniau newydd i newid trefniadau traffig ym Mhorthgain

06/11/2023

Cynlluniau newydd i newid trefniadau traffig ym Mhorthgain

Mae Porthgain yn bentref hardd a hanesyddol ac yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr ond mae cynllun newydd i newid trefniadau traffig y pentref nawr yn corddi'r cyhoedd.

Mae pobl yn dod lawr i Borthgain achos beth yw Porthgain. Os fydd Porthgain yn cael ei altro, falle fydd ddim un yn dod yma. Sa i'n gwybod hynny. Subjective opinion falle. Ond fy marn i yw 'sdim eisiau neud gormod. Mae eisiau neud rhywbeth ond 'sdim eisiau colli character y pentref. Mae'n bwysig bod hwnnw'n cael ei gadw.

Diogelu cymeriad Porthgain a'i phobl yw'r nod yn ôl Cyngor Penfro sy'n dweud eu bon nhw'n siarad â phobl leol am newidiadau i'r trefniadau parcio a thraffig a bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £300,000 ar gyfer cynllun dwy flynedd i drio gwella'r sefyllfa.

Cynta i'r felin yw hi o ran parcio'n fan hyn ym Mhorthgain ar y funud. Mae rhai pobl yn defnyddio'r llecyn yma reit yng nghanol y pentref. Mae parcio'n rhad ac am ddim. Mae eraill yn parcio ar ochr y ffordd ond mae'n bosib, cyn bo hir, bydd hyn i gyd yn newid.

Mae 'na bryder yn lleol hefyd be ddigwyddith i'r tir sy'n cael ei ddefnyddio gan bysgotwyr i gadw'u cychod. Mae pedair cenhedlaeth o deulu Rob Jones 'di bod yn pysgota yma ond mae e'n poeni nawr na fydd lle o dan y drefn newydd i gadw'i gwch.

Wel, 19 footer yw hwnnw. 21 footer yw'r un golau. Dw i'n pysgota o fan hyn lawr i Pen Dewi a mae Abergwaun biti saith, wyth, naw milltir. Mae'r cwch rhy fach, os mae'n dala mas yn y gwynt i ddreifio all the way i Abergwaun ac wedyn yr unig le arall allwn ni fynd wedyn i Dyddewi. 'Sdim o'r aber 'ma mor saff â hynny. Mae swell uffernol. So na pam ni ar trailers. So fydd rhaid i ni gael rhywle i roi nhw.

Mae'r harbwr yn hafan i ymwelwyr ond hefyd i bobl sy'n byw yma. Rhai a'u cysylltiad yn dyddio'n ôl dros genedlaethau. Tra'n cydnabod bod lle i wella iddyn nhw mae gwarchod cymeriad a hanes yr un mor bwysig.

Does ddim un arall 'run peth ag e. T'mod, os dw i am concrete slabs concrete planters a pavements a pethau a' i i Hwlffordd neu Abertawe neu a' i i Gaerfyrddin.

Mae Porthgain yn naturiol. Mae e 'di bod yn naturiol dros y blynydde a byddai fe'n neis i gadw e'n naturiol.

Mae Porthgain yn drysor. Yr her nawr yw gwneud y lle yn fwy diogel heb darfu ar harddwch naturiol y pentref bach hynod yma ar arfordir Penfro.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.