Sut mae heriau costau byw yn effeithio ar bobl yn Abergele?
Sut mae heriau costau byw yn effeithio ar bobl yn Abergele?
Yn gynnyrch ffres, bwyd i'ch anifail anwes neu nwyddau molchi mae Banc Bwyd Cylch Abergele yn darparu nifer o bethau.
Mae rhestr man hyn o be maen nhw'n gael. Maen nhw'n cael dewis pa fath o eitem maen nhw'n gael.
Mae gwirfoddolwr wedi bod yn brysur yn gwau. Mae pethau fel rhoi het i fabi neu blentyn bach yn helpu achos mae'n costio gymaint o bres i wresogi ty. Mae'r banc bwyd yn helpu pobl sy'n cael trafferth bwydo'r teulu ac yn y blaen.
Yn fwy na hynny, mae'r banc yn cynnig cymorth ar gyfer unrhyw beth, cyfeirio at wahanol asiantaethau. Mae'n fwy na jyst banc bwyd. Mae'n helpu efo dyledion, biliau ynni, digartrefedd.
Ond nid pobl y dref yn unig sy'n dod yma. Mae'r banc bwyd yn darparu nwyddau i bobl mewn ardaloedd gwledig hefyd.
Mae'r galw am becynnau bwyd wedi dyblu o'i gymharu ag adeg yma llynedd. Maen nhw'n rhannu tua 40 o becynau bwyd yr wythnos.
Pan mae yna argyfyngau fel costau byw yn aml iawn mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn diodde. Maen nhw'n bellach o'r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw. Dydy o'm yn deg bod pobl mewn ardaloedd gwledig ddim yn cael y gwasanaethau mae'r ardaloedd trefol yn eu cael.
Tua milltir o dre Abergele mae Ceri Jones yn berchennog ar fusnes harddwch. Er bod ganddi gwsmeriaid ffyddlon mae hi hefyd wedi sylwi rhywfaint o newid ar arferion gwario.
Hwyrach mae pobl, yn lle bod nhw'n cael ewinedd a traed maen nhw'n mynd heb gael eu traed un mis. Neud y ddau mis arall. Os ydyn nhw yn canslo, yn anffodus, dw i'n colli allan. Mae hynny yn cael effaith arnaf i, ar y ty a phopeth arall mewn bywyd. Dw i yn reit lwcus efo social media. Mae gen i bobl sy'n dilyn Cwt Bach Ceri. Dw i'n marchnata ar y storiau os dw i'n cael cancellation. Mae lot o bobl yn snapio fo fyny.
O fod yn fusnes annibynnol mae Ceri yn gweld ei bod yn gwneud arbedion ond wedi ei lleoli yng nghefn gwlad mae gofyn iddi gynllunio yn ofalus.
Dw i'n gwneud dewis doeth os oes gen i orders yn mynd i mewn, dw i'n gwneud orders fwy a mae'r delivery charge yn fwy ond dw i'n gwneud llai ohonyn nhw. Mae gen i online booking system. Does gen i ddim staff i ateb y ffon, mae o i gyd trwy social media. Mae'n help i fi gadw'r cost lawr.
Draw yn Ninbych, mae pobl yn poeni wrth i brisiau godi.
'Dan ni 'di sylwi bod popeth wedi mynd i fyny. Mae pawb mor ofalus sut maen nhw'n gwario ac ar be maen nhw'n gwario. Dydy hi ddim mor hawdd gwerthu a be oedd hi. Dw i'n sylweddoli popeth, bob tro dw i'n mynd i siopa mae'n wahanol, papur toilet, papur ty bach cabbage neu unrhyw beth, mae pob peth yn mynd i fyny.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gwneud popeth posib i helpu pobl gan ddarparu cymorth sydd wedi ei dargedu ar gyfer y rhai sydd ei angen fwya. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deud eu bod yn darparu'r cymorth mwya erioed.
O gefn gwlad i'r glannau, mae heriau costau byw yn amlwg ac mae'n debyg mai parhau i frathu fydd yr argyfwng wrth i'r gaeaf gydio.