‘Ffiaidd’: Taflu bomiau petrol at heddlu yn yr Alban ar noson tân gwyllt
Mae Heddlu'r Alban yn dweud bod wyth o’u swyddogion wedi eu hanafu ar ôl trais “ffiaidd” ar noson tân gwyllt.
Roedd tua 100 o bobl ifanc wedi ymgasglu ar Hay Avenue yn Niddrie, Caeredin toc cyn 17.00 ddydd Sul.
Roedd tua 50 o‘r rheini yn gyfrifol am anelu tân gwyllt a bomiau petrol at swyddogion, meddai’r heddlu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Tim Mairs bod y trais yn “ddigynsail”.
“Mae lleiafrif o unigolion wedi bod yn gyfrifol am anhrefn annerbyniol a ffiaidd sydd wedi dychryn cymuned ac anafu swyddogion," meddai.
Ychwanegodd bod pobl ifanc yn cael “eu hannog” gan oedolion i dargedu swyddogion.
'Siomedig'
Rhybuddiodd arweinydd Cyngor Caeredin, Cammy Day, y byddai’r rheini oedd yn gyfrifol yn cael eu herlyn.
“Roedd y golygfeydd yn Niddrie heno yn arswydus,” meddai.
“R’yn ni wedi bod yn gweithio trwy gydol y flwyddyn i atal y trais sy’n gysylltiedig â Noson Tân Gwyllt felly mae’n hynod siomedig gweld lleiafrif o bobl yn ymddwyn fel hyn."
Roedd trais yn erbyn yr heddlu yn Dundee hefyd wrth i ddau gerbyd gael eu bwrw â briciau.
Ddydd Mawrth bu’n rhaid i heddlu ymyrryd yn y ddinas wedi adroddiadau fod plant mor ifanc â 10 oed yn cynnau tân gwyllt.
Llun gan Heddlu yr Alban / PA.