Newyddion S4C

'Peryglus': Menyw a gollodd fabi yn pryderu am ei phlant eraill mewn llety dros dro

06/11/2023
Mandy Smith

Mae menyw o Gaerdydd a gollodd ei babi yn wyth wythnos oed yn pryderu am iechyd ei phlant eraill ar ôl cael ei symud i lety dros dro "peryglus".

Symudodd Mandy Smith allan o'i chartref yn dilyn marwolaeth ei mab wyth wythnos oed yn 2021 o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod.

Dywedodd nad oedd hi'n gallu aros yno oherwydd "trawma" yr hyn ddigwyddodd.

Ond wedi cyfnod yn byw gyda'i mam, cyn symud i hostel am chwe wythnos, cafodd ei symud i lety dros dro gan Gyngor Caerdydd ar Ffordd Penarth yn Grangetown. 

Ers hynny, mae Ms Smith sy'n fam i ddau yn dweud ei bod wedi gorfod dygymod â llwydni a sbwriel wedi ei adael gan y person oedd yn byw yno yn flaenorol yng nghefn yr eiddo. 

Yn fwy diweddar, ychwanegodd bod rhywun wedi gadael llwy yn cynnwys heroin yn ei blwch llythyrau. 

"Fe wnaeth fy merch pedair oed bigo llwy gyda heroin arno," meddai. 

"Gallai hi fod wedi ei lyncu a marw. Dwi eisoes yn galaru am fy mab."

Ychwanegodd Ms Smith bod un o'i phlant wedi tagu ar blaster a oedd wedi bod yn dod oddi ar y waliau.

Mae'n amau hefyd bod llwydni yn y cartref yn gyfrifol am broblemau anadlu ei phlentyn arall.

"Dydw i ddim yn siŵr pam eu bod nhw'n rhentu'r cartref i rywun sydd â phlant," meddai.

"Mae'n hollol anaddas ac afiach."

Roedd car wedi ei adael y tu allan i’r eiddo yn ogystal â matres, soffa a darnau eraill o sbwriel, meddai.

Image
Sbwriel

'Blaenoriaeth'

Asiantaeth Dai Cadwyn sy’n berchen ar yr eiddo ac maen nhw’n dweud eu bod wedi gweithio gyda phartneriaid i sicrhau fod unrhyw wrthrychau peryglus yn cael eu symud o'r eiddo yn ddiogel. 

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth Dai Cadwyn: "Rydym yn ymwybodol o'r problemau a gafodd eu codi mewn eiddo Cadwyn sy'n cael ei rentu ar brydles gan Gyngor Caerdydd. 

"Diogelwch trigolion yn ein heiddo ni ydi ein blaenoriaeth ac rydym yn gweithredu pan rydym ni'n dod yn ymwybodol o broblemau."

Dywed Cyngor Caerdydd eu bod wedi siarad gydag Asiantaeth Dai Cadwyn unwaith y daethon nhw'n ymwybodol o'r problemau a'u bod wedi cael sicrwydd bod camau yn cael eu cymryd.

Fe wnaeth yr awdurdod lleol hefyd gynghori Ms Smith i gysylltu gyda'r heddlu am y cyffuriau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae ein llety dros dro yn gweithredu yn y ffordd orau posib gydag opsiynau cyfyngedig i bobl i symud ymlaen i eiddo fwy tymor hir.

"Mae mwy na 200 o deuluoedd yn byw mewn gwestai ar hyn o bryd felly mae cynyddu argaeledd tai fforddiadwy yn flaenoriaeth i'r cyngor ac mae ein rhaglen datblygu tai uchelgeisiol wedi darparu bron i 900 o dai cyngor newydd dros y blynyddoedd diwethaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.