Dros 10,000 wedi eu lladd yn Gaza medd y weinidogaeth iechyd
Mae nifer y bobol sydd wedi eu lladd yn Gaza ers i Israel ddechrau bomio’r diriogaeth bellach wedi cyrraedd 10,022, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hamas yn Gaza.
Daw’r ffigwr ar ôl noson o ymosodiadau dwys gan Israel, gyda'r Israeliaid yn dweud eu bod wedi "hollti Llain Gaza yn ddau".
Yn ôl cyfarwyddwr yr ysbyty fwyaf yn Ninas Gaza, cafodd tua 200 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau hynny.
Dywedodd byddin y wlad eu bod wedi lansio ymosodiad sylweddol yng ngogledd Gaza, gydag adroddiadau o ffrwydradau mawr.
Ychwanegodd yr IDF eu bod wedi "amgylchynu" Dinas Gaza a bod milwyr wedi cyrraedd yr arfordir, gan olygu bod Llain Gaza wedi ei rhannu i fod yn "Ogledd Gaza a De Gaza".
Mae'r IDF hefyd yn dweud bod Israel yn parhau i sicrhau bod yna lwybr ar gael i drigolion o ogledd Gaza a Dinas Gaza i fynd i'r de.
Mae adroddiadau o fewn y wasg yn Israel yn awgrymu fod disgwyl i filwyr y wlad gyrraedd Dinas Gaza o fewn 48 awr.
Mae Ysgrifennydd Gwladol UDA Antony Blinken wedi dweud bod America yn "gweithio'n galed" i sicrhau nad yw'r gwrthdaro yn ymledu ac i geisio rhyddhau gwystlon.
'Ddim yn bosib'
Yn y cyfamser mae arweinydd cyngor a 10 o gynghorwyr wedi gadael y blaid Lafur yn sgil penderfyniad Syr Keir Starmer i beidio gwthio am gadoediad yn Gaza.
Mae arweinydd Cyngor Burnley Afrasiab Anwar ymysg y rhai sydd wedi gadael.
Mewn datganiad, dywedodd y cynghorwyr nad oedd yn bosibl bellach iddyn nhw fod yn aelodau o'r blaid.
Mae Israel wedi bod yn bomio Gaza ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref, sydd wedi lladd 1,400 o bobl gyda mwy na 200 wedi eu cymryd fel gwystlon.