Newyddion S4C

Aelodau o deulu Brif Weinidog yr Alban yn cyrraedd adref ar ôl pedair wythnos yn Gaza

05/11/2023
Teulu Humza Yousaf

Mae rhieni-yng-nghyfraith Prif Weinidog yr Alban, Humza Yousaf, wedi dychwelyd i’r Alban ar ôl treulio pedair wythnos yn gaeth yn Llain Gaza.

Roedd Elizabeth a Maged El-Nakla, rhieni gwraig Mr Yousaf, ymhlith 92 o ddinasyddion Prydeinig oedd wedi cael yr hawl i groesi'r ffin o Rafah i'r Aifft fore dydd Gwener.

Fe gafodd aelodau'r teulu eu haduno ddydd Sul ar ôl pedair wythnos o ansicrwydd, wrth i’r gwrthdaro rhwng lluoedd Israel a’r grŵp milwriaethus Hamas dwysau.

Dywedodd Mr Yousaf ar X: “Rydw i mor falch i ddweud mod fy rhieni-yng-nghyfraith yn ddiogel ac wedi cyrraedd adref. Rydym wrth gwrs ar ben ein digon, ond fe ddywedodd fy nhad-yng-nghyfraith, “Mae fy nghalon wedi ei dorri’n ddwy, gyda fy mam, mab ac wyrion yn Gaza.” Yna, fe wnaeth e dorri lawr wrth ddweud wrthyf ba mor anodd yr oedd ffarwelio â nhw.”

Roedd yr El-Naklas, o Dundee, yn Gaza yn ymweld â pherthnasau pan ddechreuodd y gwrthdaro, ac mae Mr Yousaf wedi rhannu diweddariadau rheolaidd ar sefyllfa ei deulu - gan gynnwys eu bod wedi gorfod yfed dŵr o'r môr oherwydd diffyg adnoddau yn Gaza.

Fe ychwanegodd Mr Yousaf:  “Mae’r teulu cyfan mor falch eu bod nhw adref yn yr Alban. Ond, mae ein meddyliau yn parhau gyda’r rhai sydd ddim yn gallu gadael ac sy’n gaeth yng nghanol brwydr. 

"Fe wnawn ni barhau i godi ein lleisiau i alw am heddwch ac i roi stop ar y dynion, merched a phlant diniwed sy’n cael eu lladd yn Gaza.

“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn hynod o anodd. Ni allaf fynegi faint mae hyn wedi effeithio ar Nadia ac ein teulu, yn enwedig fy nheulu-yng-nghyfraith.

"Dw i’n sicr y bydden nhw’n dweud eu stori rhyw ddiwrnod. Yn y cyfamser, hoffwn ofyn bod eu preifatrwydd yn cael ei barchu. Diolch i bawb am eich negeseuon a’ch dymuniadau da.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.