Newyddion S4C

Buddugoliaeth i Zoe Bäckstedt ym Mhencampwriaeth Seiclo Traws Dan 23 Ewrop

05/11/2023
Zoe Bäckstedt

Mae Zoe Bäckstedt wedi ennill Pencampwriaeth Seiclo Traws Dan 23 Ewrop yn Ffrainc.

Fe enillodd y Gymraes 19 oed y teitl wrth gynrychioli Prydain yn Pont-Chateau yn Ffrainc ddydd Sul.

Mae hyn yn ychwanegu at ei palmarès ar ôl iddi ennill medal aur yn y ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaethau Dan 23 Ewrop ym mis Medi.

Mae hi’n ferch i’r cyn seiclwr proffesiynol Magnus Bäckstedt, wnaeth ymgartrefi yng Nghymru ar ôl priodi Cymraes.

Roedd hefyd wedi ennill dwy fedal arian ym Mhencampwriaethau Seiclo Traws y Byd ym mis Chwefror.

Llun: ProCyclingUK

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.