150 o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn yn Nepal
Mae 150 o bobl wedi marw a channoedd eraill wedi eu hanafu yn dilyn daeargryn yn Nepal dros y penwythnos.
Fe ddigwyddodd y daeargryn mewn ardal anghysbell Jajarkot a gorllewin Rukun tua 500 cilomedr (310 milltir) i’r gorllewin o’r brifddinas Kathmandu.
Mae lluoedd amddiffyn Nepal wedi eu galw i’r ardal i helpu gyda’r ymdrechion achub.
Fe deimlwyd cryndodau cryf yn Kathmandu ac mor bell â Delhi, 800 cilomedr (500 milltir) i ffwrdd yn India.
Dywedodd llywodraeth Nepal fod tua 375 o bobl wedi eu hanafu.
Dywedodd asiantaeth UNICEF eu bod nhw’n asesu effaith y difrod ar blant a theuluoedd.
Mae disgwyl i gabinet llywodraeth y wlad gyfarfod ddydd Sul i benderfynu derbyn cymorth gan wledydd tramor ai peidio.
Mae nifer o wledydd gan gynnwys China ac India wedi cynnig cymorth dyngarol i Nepal.
Mae miloedd o bobl wedi treulio’r noson yn yr awyr agored mewn tymereddau isel yn dilyn difrod i’w tai gan y daeargryn.