Honiadau o dreisio yn erbyn aelod seneddol Ceidwadol 'heb eu cuddio'
Mae cyn cadeirydd y Blaid Geidwadol wedi gwadu fod honiadau yn erbyn un o aelodau seneddol y blaid wedi eu cuddio yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
Daw yn dilyn adroddiadau nad oedd honiadau o dreisio yn erbyn aelod seneddol y blaid wedi eu hymchwilio yn ddigon trylwyr gan y Torïaid.
Nid yw'r aelod seneddol wedi ei enwi.
Dywedodd y Dirprwy Prif Weinidog Oliver Dowden ar raglen Laura Kuenssberg ar y BBC fore dydd Sul: “Mae’r rhain yn honiadau difrifol a hoffwn sicrhau fod y Blaid Geidwadol yn eu cymryd yn hynod o ddifrifol.
“Mae’n anodd i mi roi sylw penodol ar hyn am ddau reswm. Yn gyntaf, nid yw’r unigolyn yn cael ei enwi ac yn ail, mae’n bosib fod ymchwiliadau troseddol yn mynd yn eu blaen.
“Mae pob honiad yn cael ei gymryd yn hynod ddifrifol. Cafwyd proses archwilio annibynnol ac os oes gan unrhyw un unrhyw bryder dylid mynd at yr heddlu a byddwn yn eu hannog i fynd at yr heddlu.”
Dywedodd Mr Dowden na fedrai ddweud os oedd yr adroddiadau yn y Mail on Sunday yn gywir oherwydd nad oedd yn gwybod “pwy oedd yr unigolyn dan sylw”.
Fe ychwanegodd Mr Dowden “nad oedd yn adnabod mewn unrhyw ffordd y syniad ein bod ni wedi cuddio unrhyw beth. Medraf eich sicrhau yn bendant nad dyna oedd yr achos pan oeddwn i’n gadeirydd y Blaid Geidwadol a fy mod wedi cuddio unrhyw honiadau.”