Bocsio: “Caerdydd neu Las Vegas” sydd nesaf i Joe Cordina ar ôl curo Edward Vasquez
Fe lwyddodd Joe Cordina i amddiffyn ei deitl Pencampwr y Byd IBF Pwysau Uwch-Plu ar ôl curo’r ornest gydag Edward Vasquez nos Sadwrn gyda phenderfyniad mwyafrif.
Roedd y Cymro o Gaerdydd, sy’n 31 oed, yn amddiffyn ei wregys am y tro cyntaf mewn gornest a gafodd ei chynnal yn Casino de Monte Carlo, yn Monaco.
Er mai Cordina oedd y ffefryn i ennill, roedd yr ornest yn un eithaf cyfartal ar y cyfan, gyda’r ddau ymladdwr yn cael cyfnodau cryf yn ystod y 12 rownd.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, fe wnaeth un o’r beirniaid sgorio’r ornest yn gyfartal 114-114, tra bod y ddau arall yn sgorio 116-112 o blaid Cordina, gan ddynodi buddugoliaeth gyfyng iawn i’r pencampwr.
Inline Tweet: https://twitter.com/MatchroomBoxing/status/1720934899706659274?s=20
Fe wnaeth yr Americanwr Vasquez a’i hyfforddwyr ymateb yn flin i’r penderfyniad, gan ddadlau gyda Cordina a’i gefnogwyr mai ef oedd yn haeddu ennill.
Dywedodd Cordina ar ddiwedd yr ornest: “Roedd o’n ymladdwr clyfar a heriol, ond fe gollodd y ffeit, a dyna ddiwedd y stori.
“Wrth gychwyn y 10fed rownd, fy ddywedodd fy nghongl wrtha i fod y ffeit yn gyfartal. Nes i ddim bocsio i orau fy ngallu, ond dwi’n credu fe wnes i ddigon i gael y penderfyniad o’m mhlaid.
"Doedd e ddim yn gallu fy nghuro ar fy noson waethaf. Mae o’n gollwr gwael ac mae e di mynd i lefain nawr.”
Dywedodd Eddie Hearn, sydd yn gyfrifol am drefnu gornestau Cordina, mai “Caerdydd neu Las Vegas” byddai nesaf i’r ymladdwr, sydd yn ymestyn ei record i 17 buddugoliaeth allan o 17 gornest yn ei yrfa broffesiynol.
Llun: X/Joe Cordina