Trên newydd i’r Bermo?
10/06/2021
Trên newydd i’r Bermo?
Roedd golygfeydd anarferol yn y Bermo fore Mercher wrth i lwyth anarferol gael ei gludo drwy’r dref yng Ngwynedd.
Mae fideo a gafodd ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos llwyth o drenau yn cael ei dywys drwy stryd yng nghanol y dref.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio trigolion yr ardal o flaen llaw y byddai'r llwyth yn achosi oedi.
Llun a Fideo: Terrig Williams