Newyddion S4C

Hamas yn cyhuddo Israel o ymosod ar wersyll ffoaduriaid

05/11/2023
Gaza

Mae gweinyddiaeth iechyd Hamas wedi cyhuddo Israel o ymosod ar wersyll ffoaduriaid gan ladd mwy na 30 o bobl.

Cafodd gwersyll ffoaduriaid al-Maghazi ei fomio nos Sadwrn yng nghanol llain Gaza ac mae Hamas yn dweud mai cyrch awyr gan luoedd Israel oedd yn gyfrifol.

Dywedodd Israel eu bod nhw’n ymchwilio i weld a oedd eu lluoedd yn gweithredu yn yr ardal ar y pryd.

Dywedodd y Cenhedloedd Unedig for 1.5 miliwn o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn Gaza a bod 700,000 mewn llochesi.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr UDA Antony Blinken wedi gwrthod galwadau am gadoediad gan ddweud byddai hynny yn “rhoi cyfle i Hamas i ailgydio a chynnal rhagor o ymosodiadau.”

Wrth gyfarfod yn yr Iorddonen gydag arweinwyr Arabaidd sydd yn galw am gadoediad, fe ychwanegodd Mr Blinken fod yn rhaid i Israel gymryd “pob mesur posib” i osgoi achosi niwed i sifiliaid yn Gaza.

Mae Israel wedi cyhoeddi y bydd yna “ffenestr o bedair awr” ddydd Sul er mwyn i bobl yn Gaza adael i’r de.

Cafodd cannoedd o dramorwyr, gan gynnwys Prydeinwyr, eu gwrthod rhag croesi i’r Aifft yn Rafah ddydd Sadwrn mewn anghydfod dros bobl gydag anafiadau yn ôl awdurdodau Palesteina.

Cafodd tramorwyr, pobl gyda dau basbort ac unrhyw un gydag anafiadau eu gwrthod rhag croesi er bod eu henwau ar restr.

Dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod 1.5 miliwn o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn Gaza a bod 700,000 mewn llochesi.

Ychwanegodd y sefydliad nad oedd eu cyfleusterau yn y de yn medru derbyn rhagor o ffoaduriaid.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.