Dyn gydag 'anafiadau all beryglu bywyd' ar ôl gwrthdrawiad 'difrifol' ar yr M4 ger Abertawe
Roedd traffordd yr M4 wedi ei chau i’r ddau gyfeiriad ger Abertawe am gyfnod fore dydd Sul yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol".
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw am tua 06:00 bore dydd Sul yn dilyn adroddiadau fod dyn yn gorwedd ar y ffordd ger cyffordd 45.
Fe wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru anfon dau ambiwlans i'r digwyddiad, cyn cludo'r dyn i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag “anafiadau sy’n peryglu ei fywyd”.
Roedd y draffordd ar gau rhwng cyffordd 45 a chyffordd 46, rhwng Ynysforgan a Llansamlet am tua dwy awr tra bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal.
Roedd yr heddlu wedi rhybuddio y byddai oedi ar y ffordd ac wedi cynghori gyrwyr i ddefnyddio ffyrdd gwahanol os yn bosib.
Roedd tagfeydd traffig yn yr ardal gyfagos wrth i yrwyr ddefnyddio ffyrdd eraill cyn i'r draffordd ailagor.
Llun: Traffig Cymru