Protest yng Nghaerdydd yn galw am gadoediad yn Gaza
Cafodd protest ei chynnal yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn yn galw am gadoediad yn Gaza.
Fe wnaeth cannoedd o bobl cynnal gorymdaith ar hyd Heol Eglwys Fair a heibio Castell Caerdydd, gyda phosteri a baneri Palesteina.
Roedd y protestwyr yn galw ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i gefnogi’r galwadau am gadoediad yn Gaza, wrth i luoedd Israel frwydro yn erbyn grŵp milwriaethus Hamas.
Dyma’r trydydd protest o’i fath yn y brifddinas ers cychwyn y rhyfel rhwng Israel a Hamas.
Inline Tweet: https://twitter.com/voice_wales/status/1720789717405302843?s=20
Cafodd sawl protest arall ei gynnal ar draws y DU, gyda dros 30,000 yn bresennol yn Llundain.
Daw hyn yn sgil datganiad gan Rishi Sunak, Prif Weinidog y DU, yn dweud y byddai’n “amharchus” cynnal unrhyw brotestiadau ar Ddiwrnod y Cadoediad, ddydd Sadwrn nesaf.
Yn y datganiad, fe ddywedodd y byddai’r Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, “yn gwneud popeth sydd ei hangen” er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw brotestiadau bosib yn “amharu” ar wasanaethau cofeb.
Ddydd Gwener, fe ddywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanhyahu na fyddai unrhyw gadoediad cyn i bob un o’r gwystlon o Israel sydd yn cael eu cadw yn Gaza gan Hamas, yn cael eu rhyddhau.