Newyddion S4C

Heddlu yn ymchwilio marwolaeth ‘anesboniadwy’ dynes o Fonymaen

04/11/2023
Rebekah Williams

Mae’r heddlu yn ymchwilio marwolaeth ‘anesboniadwy’ dynes o Fonymaen, yn Abertawe.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i dŷ ar Ffordd Myrddin toc cyn 20.50 ar nos Iau 2 Tachwedd, yn dilyn marwolaeth Rebekah Williams, 42.

Cafodd dyn 36 oed ei arestio mewn cysylltiad â’i marwolaeth, ac mae ymholiadau’r heddlu yn parhau.

Mae teulu Ms Williams wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Wrth roi teyrnged, fe ddywedodd teulu Ms Williams: “Roedd Rebekah yn ddynes gymhleth ond roedd pawb yn ei theulu yn ei charu.”

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, o Heddlu De Cymru: “Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Rebekah yn ystod y cyfnod hwn.

“Bydd presenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal o hyd wrth i ni fwrw ymlaen â’n hymchwiliad i sefydlu union amgylchiadau ei marwolaeth.

“Hoffem annog unrhyw un a oedd yn ardal Ffordd Myrddin ddydd Iau rhwng 08.00 a 21.00, ac nad ydynt wedi siarad â swyddogion eto, i gysylltu â ni.

“Mae’n hanfodol ein bod yn sefydlu beth ddigwyddodd, felly rwy’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.