Newyddion S4C

Cymru'n curo'r Barbariaid yng Nghaerdydd

04/11/2023
Cymu v Barbariaid

Fe gurodd Cymru'r Barbariaid o 49-26 mewn gêm gyfeillgar yn Nghaerdydd brynhawn dydd Sadwrn.

Roedd y gêm yn gyfle i'r dorf o 53,000 ddweud ffarwel i dri o gewri'r gêm yng Nghymru sef Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a Leigh Halfpenny.

Fe ddaeth cyfle cyntaf i Gymru yn gynnar yn y gêm gyda'r bachwr Dewi Lake yn croesi am gais ar ôl dwy funud. Fe drosodd y cefnwr Leigh Halfpenny, yn ei gêm olaf dros ei wlad, i osod Cymru ar y blaen o 7-0.

Er mai gêm gyfeillgar oedd hon fe gafodd Cymru sioc pan dderbyniodd yr ail reng Adam Beard gerdyn melyn ar ôl 10 munud am lawio'r bêl yn fwriadol o ddwylo un o chwaraewyr y Barbariaid.

Fe fanteisiodd y Barbariaid ar 14 dyn Cymru wrth i'r mewnwr Simone Kuruvoli groesi am gais ar ôl 12 munud. Cymru 7-5 Barbariaid.

Daeth ail gais i Gymru ar ôl 29 munud gyda'r canolwr George North yn dangos sgiliau traddodiadol y Barbariaid gyda'r bas wyrthiol rhwng ei goesau i'r asgellwr Tom Rogers gael croesi. Fe drosodd Halfpenny eto i osod Cymru ar y blaen o 14-5.

Gwaith celfydd rhwng yr haneri arweiniodd at drydydd cais Cymru gyda'r maswr Sam Costelow yn darllen cic fach y mewnwr Tomos Williams yn berffaith i sgorio. Fe drosodd Halfpenny eto. Cymru 21-5 Barbariaid ar yr egwyl.

Ail hanner

Y Barbariaid oedd y cyntaf i sgorio yn yr ail hanner wrth i Kuruvoli fanteisio ar rediad a chic y prop Angus Bell gyda'r maswr Nicolas Sanchez yn trosi. Cymru 21-12 Barbariaid.

Gyda'r Barbariaid yn dangos eu parodrwydd traddodiadol i drafod y bêl cafwyd bloedd enfawr gan y dorf pan groesodd yr ail reng Alun Wyn Jones am gais ar ôl 49 munud. Fe drosodd Sanchez eto. Cymru 21-19 Barbariaid.

Pan ddaeth cyfle i Gymru gael eu dwylo ar y bêl fe groesodd yr eilydd Taine Plumtree am bedwerydd cais i'r crysau cochion a throsiad arall gan Halfpenny. Cymru 28-19 Barbariaid.

Gyda'r Barbariaid wedi colli chwaraewr i'r gell cosb fe groesodd Aaron Wainwright am bumed cais i Gymru ar ôl 65 munud a Halfpenny yn sicrhau'r trosiad eto. Cymru 35-19 Barbariaid. Fe eilyddiwyd Halfpenny yn fuan wedyn er mwyn iddo dderbyn cymeradwyaeth a gwerthfawrogiad y dorf i ddod â therfyn i'w yrfa ryngwladol.

Fe barhaodd y Barbariaid i ymosod yn y munudau olaf ac fe groesodd Tom Hooper am gais ar ôl i Tomos Williams wneud smonach o gic adlam o lein Cymru gyda Ben Donaldson yn trosi. Cymru 35-26 Barbariaid.

Fe ddaeth dau gais hwyr Kieran Hardy a throsiadau Cai Evans â'r gêm i ben i Gymru.

Y sgôr terfynol: Cymru 49-26 Barbariaid.

Llun: Asiantaeth Huw Evans
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.