Sêr Friends yn mynychu angladd Matthew Perry yn Los Angeles
Cynhaliwyd angladd yr actor Matthew Perry yn Los Angeles, yn ôl adroddiadau yn yr UDA.
Roedd yr actorion Matt LeBlanc, David Schwimmer, Courteney Cox, Lisa Kudrow a Jennifer Aniston ymhlith y galarwyr ym Mharc Coffa Forest Lawn yn y ddinas ddydd Gwener.
Cafodd Mr Perry ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yn Los Angeles ddydd Sadwrn diwethaf yn 54 oed.
Roedd ei dad John Bennett Perry, ei fam Suzanne a’i lystad Keith Morrison hefyd yn bresennol yn yr angladd.
Mewn datganiad yn gynharach yn yr wythnos dywedodd sêr y gyfres gomedi Friends eu bod nhw "wedi eu llorio" yn dilyn marwolaeth Matthew Perry.
Fe wnaeth Jennifer Aniston, Courteney Cox, Matt LeBlanc, David Schwimmer a Lisa Kudrow serennu gyda Mr Perry, oedd yn chwarae rôl Chandler Bing, yn y gyfres boblogaidd rhwng 1994 a 2004.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y pump: "Roeddem ni'n fwy na dim ond cyd-actorion. Rydym ni'n deulu.
"Mae yna gymaint i'w ddweud, ond ar hyn o bryd, rydym ni am gymryd amser i alaru a phrosesu'r golled annirnadwy yma. Mewn amser, byddwn ni'n dweud mwy, os a phan ydyn ni'n gallu.
"Am y tro, mae ein meddyliau a'n cariad gyda theulu Matty, ei ffrindiau a phawb oedd yn ei garu o gwmpas y byd."