Chwaraewr rygbi y Barbariaid wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhywiol
Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol oedd yng ngharfan y Barbariaid i chwarae yn erbyn Cymru wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhywiol.
Fe ymddangosodd Api Ratuniyarawa, 37, sydd yn byw yng ngorllewin Sir Northampton, gerbron Llys Ynadon Caerdydd fore Sadwrn i wynebu cyhuddiadau o ymosodiad rhywiol.
Cafodd Mr Ratuniyarawa ei rhyddhau ar fechnïaeth, ac y bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 4 Rhagfyr.
Roedd Mr Ratuniyarawa wedi ei enwi ar y fainc i dîm y Barbariaid i chwarae yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn. Roedd hefyd wedi bod yn rhan o garfan Ffiji ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc.
Mae cyn chwaraewr Cymru, Aaron Shingler, wedi cymryd ei le yng ngharfan y Barbariaid ar gyfer y gêm yn y Stadiwm Principality.
Dywedodd llefarydd ar ran y Barbariaid: “Cyn gynted ag y gwnaeth Heddlu De Cymru gysylltu â ni fe wnaethom gydweithredu’n llawn, gan eu cynorthwyo gyda’u hymholiadau. Ar eu cyngor nhw, ni allwn wneud sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn parhau.”
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Undeb Rygbi Cymru.
Llun: Wotchit